Tlws Cwpan y Byd FIFA
Tlws sy'n cael ei gyflwyno i enillwyr cystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA ydy Tlws Cwpan y Byd FIFA. Mae dau dlws wedi bodoli ers sefydlu cystadleuaeth Cwpan y Byd ym 1930: Tlws Jules Rimet rhwng 1930 a 1970, a Thlws Cwpan y Byd FIFA ers 1974 hyd heddiw.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | sports award ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1930 ![]() |
Dechreuwyd | 1974 ![]() |
Gwefan | http://www.fifa.com/aboutfifa/organisation/marketing/brand/trophy.html ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/7/76/593px-DBP_1994_1718_Sporthilfe_Fu%C3%9Fball_FIFA-WM-Pokal.jpg/220px-593px-DBP_1994_1718_Sporthilfe_Fu%C3%9Fball_FIFA-WM-Pokal.jpg)
Cerflun o Nike, duwies buddugoliaeth y Groegwyr oedd y tlws gwreiddiol a wnaed o arian eurog a lapis lazuli. Llwyddodd Brasil i ennill y tlws am y trydydd tro ym 1970 ac o'r herwydd cafodd Brasil gadw'r tlws a chomisiynwyd tlws newydd ar gyfer Cwpan y Byd 1974.
"Tlws Cwpan y Byd FIFA" ydy enw'r tlws newydd. Darlun dau berson yn dal y byd ydy'r cerflun aur 18 karat sy'n 36.8 cm o uchder ac yn pwyso 6.1 kg[1]. Yr Almaen yw deiliaid presennol y tlws ar ôl ennill Cwpan y Byd 2014.
Enillwyr
golyguTlws Jules Rimet
Tlws Cwpan y Byd FIFA
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "History of the World Cup". 2014-05-25. Unknown parameter
|published=
ignored (help)