Cwpan y Byd Pêl-droed

Cwpan y Byd FIFA, sydd yn cael ei hadnabod fel Cwpan y Byd, yw prif gystadleuaeth rhyngwladol y byd pêl-droed i ddynion. Rheolir y gystadleuaeth gan Fédération Internationale de Football Association (FIFA), corff llywodraethol y byd pêl-droed ac fe'i cynhelir bob pedair blynedd ers y gystadleuaeth gyntaf ym 1930 heblaw am 1942 a 1946 pan gafodd y bencampwriaeth ei gohirio oherwydd Yr Ail Ryfel Byd.

Cwpan y Byd Pêl-droed
Enghraifft o:cystadleuaeth pêl-droed i dimau cenedlaethol, rhyngwladol, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathpencampwriaeth y byd, cystadleuaeth bêl-droed Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1930 Edit this on Wikidata
Enw brodorolFIFA World Cup Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.fifa.com/tournaments/mens/worldcup Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae 17 o wledydd gwahanol wedi cynnal Cwpan y Byd gyda'r Almaen Brasil, Yr Eidal, Ffrainc a Mecsico wedi cynnal y gystadleuaeth ar ddau achlysur tra bod Yr Ariannin, Tsile, De Affrica, Lloegr, Rwsia, Sbaen, Sweden, Y Swistir, Unol Daleithiau America ac Wrwgwái wedi cynnal y gystadleuaeth unwaith a chynhaliodd De Corea a Siapan y gystadleuaeth ar y cyd.

Mae wyth o wledydd gwahanol wedi ennill y bencampwriaeth. Brasil sydd â'r nifer fwyaf o fuddugoliaethau ar ôl ennill y bencampwriaeth ar bum achlysur a hefyd Brasil yw'r unig wlad sydd wedi ymddangos ym mhob cystadleuaeth ers 1930. Mae'r Almaen a'r Eidal wedi ennill y gystadleuaeth ar bedwar achlysur, Yr Ariannin ac Wrwgwái ddwywaith gyda Ffrainc, Lloegr a Sbaen wedi ennill un bencampwriaeth yr un.

Canlyniadau

golygu
Blwyddyn Cynhaliwyd Enillydd Sgor Ail Trydydd Sgor Pedwerydd Nifer o dimau
1930
Manylion
  Wrwgwái   Wrwgwái 4 – 2   yr Ariannin   yr Unol Daleithiau [note 1]   Iwgoslafia 13
1934
Manylion
  Yr Eidal   yr Eidal 2 – 1
  Tsiecoslofacia   yr Almaen 3 – 2   Awstria 16
1938
Manylion
  Ffrainc   yr Eidal 4 – 2   Hwngari   Brasil 4 – 2   Sweden 16/15

[note 2]

1950
Manylion
  Brasil   Wrwgwái [note 3]   Brasil   Sweden [note 3]   Sbaen 16/13

[note 4]

1954
Manylion
  Y Swistir   Gorllewin Yr Almaen 3 – 2   Hwngari   Awstria 3 – 1   Wrwgwái 16
1958
Manylion
  Sweden   Brasil 5 – 2   Sweden   Ffrainc 6 – 3   Gorllewin Yr Almaen 16
1962
Manylion
  Tsile   Brasil 3 – 1   Tsiecoslofacia   Tsile 1 – 0   Iwgoslafia 16
1966
Manylion
  Lloegr   Lloegr 4 – 2   Gorllewin Yr Almaen   Portiwgal 2 – 1   Undeb Sofietaidd 16
1970
Manylion
  Mecsico   Brasil 4 – 1   yr Eidal   Gorllewin Yr Almaen 1 – 0   Wrwgwái 16
1974
Manylion
  Gorllewin yr Almaen   Gorllewin Yr Almaen 2 – 1   yr Iseldiroedd   Gwlad Pwyl 1 – 0   Brasil 16
1978
Manylion
  Yr Ariannin   yr Ariannin 3 – 1   yr Iseldiroedd   Brasil 2 – 1   yr Eidal 16
1982
Manylion
  Sbaen   yr Eidal 3 – 1   Gorllewin Yr Almaen   Gwlad Pwyl 3 – 2   Ffrainc 24
1986
Manylion
  Mecsico   yr Ariannin 3–2   Gorllewin Yr Almaen   Ffrainc 4–2   Gwlad Belg 24
1990
Manylion
  Yr Eidal   Gorllewin Yr Almaen 1–0   yr Ariannin   yr Eidal 2–1   Lloegr 24
1994
Manylion
  Unol Daleithiau America   Brasil 0–0
(3–2p)
  yr Eidal   Sweden 4–0   Bwlgaria 24
1998
Manylion
  Ffrainc   Ffrainc 3–0   Brasil   Croatia 2–1   yr Iseldiroedd 32
2002
Manylion
  De Corea
&   Japan
  Brasil 2–0   yr Almaen   Twrci 3–2   De Corea 32
2006
Manylion
  Yr Almaen   yr Eidal 1–1
(5–3p)
  Ffrainc   yr Almaen 3–1   Portiwgal 32
2010
Manylion
  De Affrica   Sbaen 1–0   yr Iseldiroedd   yr Almaen 3–2   Wrwgwái 32
2014
Manylion
  Brasil   yr Almaen 1–0   yr Ariannin   yr Iseldiroedd 3–0   Brasil 32
2018
Manylion
  Rwsia   Ffrainc 4–2   Croatia   Gwlad Belg 2–0   Lloegr 32

Cyfeiriadau

golygu
  1. "1930 FIFA World Cup". FIFA.com. Fédération Internationale de Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-26. Cyrchwyd 5 Mawrth 2009.
  2. 2.0 2.1 "1950 FIFA World Cup". FIFA.com. Fédération Internationale de Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-03. Cyrchwyd 5 Mawrth 2009.
  3. "FIFA World Cup Finals since 1930" (PDF). FIFA.com. Fédération Internationale de Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-05-03. Cyrchwyd 5 Mawrth 2009.
Nodiadau
  1. Nid oedd gêm am y drydedd safle yn 1930, er fod FIFA bellach yn derbyn mai UDA a ddaeth yn drydydd a Yugoslavia yn bedwerydd.[1]
  2. Tynnodd Awstria o'r gystadleuaeth Anschluss y Rhyfel gyda'r Almaen. Ymunodd rhai o dîm Awstria gyda'r Almaen.
  3. 3.0 3.1 Nid oedd rownd derfynol swyddogol yn 1950.[2] Chwaraewyd gemau unigol yn y gwledydd unigol: Wrwgwái, Brasil, Sweden, a Sbaen.[3]
  4. 13 tim yn unig a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd FIFA yn 1950.[2]