Tom Price
Actor a digrifwr o Gymru yw Tom Price (ganwyd 12 Gorffennaf 1980) sy'n hannu o Drefynwy.[1] Mae'n briod a'r cynhyrchydd teledu Beth Morrey, sydd yn fwyaf enwog am greu fformat y sioe gwis Wogan's Perfect Recall ar gyfer Channel 4.
Tom Price | |
---|---|
Ganwyd | 12 Gorffennaf 1980 y Deyrnas Unedig |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Gwefan | http://www.pricetom.com |
- Erthygl am y digrifwr yw hon. Am erthygl ar y gyrrwr Fformiwla 1, ewch i Tom Pryce.
Gyrfa
golyguActio
golyguYmddangosiad cyntaf Pris ar deledu oedd mewn pennod o Absolute Power yn chwarae gweinydd. Mae'n adnabyddus i gynulleidfaoedd teledu am fod yn un o sêr y sioe gomedi sgets Swinging ar Five. Roedd ganddo rôl rheolaidd fel yr heddwad Andy Davidson mewn nifer o benodau o Torchwood, chwaer rhaglen i'r gyfres ffuglen wyddonol Doctor Who. Yn 2008 ymddangosodd yn y sioe sgets The Wrong Door ar BBC Three a ffilmiodd rhan Darrin Stephens mewn peilot o ail-gread Prydeinig o Bewitched, na chafodd ei ddarlledu. Mae ymddangosiadau arall ar deledu yn cynnwys Doctors (2009) a Secret Diary of a Call Girl (2010). Roedd gan Tom ran hefyd yn rhaglen Renault TV, The Key. Yn 2011 ail-gydiodd yn rhan Andy Davidson yn Torchwood: Miracle Day, a ddarlledwyd ar BBC One a rhwydwaith Starz yn yr Unol Daleithiau.[2]
Yn ychwanegol i'w berfformiadau teledu mae Price wedi ymddangos yn y ffilmiau The Boat that Rocked a Hereafter.[3]
Yn 2011 ymddangosodd mewn cyfres gomedi realaeth 8-rhan o'r enw World Series of Dating ar BBC3 [4] gyda Rob Riggle. Yn fwyaf diweddar roedd yn actor rheolaidd ochr yn ochr â Ruth Jones yn Stella ac ymddangosodd yn y gyfres ddiweddar o Count Arthur Strong a Episodes.
Comedi
golyguMae Price yn perfformio yn aml fel digrifwr stand-yp ar draws gwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.
Cymerodd ei sioe stand-up cyntaf, Say When, i Ŵyl Caeredin yn 2011,[5] a disgrifiodd un adolygydd ei arddull gomedi fel "easygoing, good-natured autobiographical".[6]
Dychwelodd i Edinburgh yn 2014, gyda'i sioe "Not as nice as He Looks",[7] a gafodd ei ddisgrifio gan un adolygwr fel "chwa o awyr iach, arloesol a ddychrynllyd o ddigrif"[8]
Yn Hydref 2014, cefnogodd Tom Stephen Merchant ar ei Daith Ewropeaidd.
Radio
golyguYmddangosodd Price fel Gordon, meddyg meddw ifanc, yn y sioe gomedi BBC Radio 4 Rigor Mortis am dair cyfres, ochr yn ochr â Peter Davison, Geoffrey Whitehead, Matilda Ziegler ac, yn y gyfres gyntaf, Tracy-Ann Oberman. Mae ei gredydau radio hefyd yn cynnwys y ddrama radio Torchwood, Asylum, unwaith eto yn ei rôl fel yr heddwas Andy.
Mae'n cyflwyno y sioe gomedi newyddion The Leak with Tom Price ar BBC Radio Wales a ddechreuodd ym mis Medi 2014 a bydd yn rhedeg drwy gydol 2015. Cyn hynny, roedd yn gyflwynwyr rheolaidd o'r sioe gomedi materion cyfoes ar y What's the Stori? ar BBC Radio Wales.[9]
Arall
golyguRoedd Price yn un o gyflwynwyr Destination Three ar BBC3 a cyflwynodd Senseless ar MTV. Yn 2014 adroddodd y rhaglen ddogfen "Quads" ar ITV1.[10] O ran hysbysebion mae wedi ymddangos yn hysbysebion Velvet Triple Soft and Trident "Mastication for the Nation", a wedi bod yn llais Nescafe. Mae wedi perfformio mewn hysbyseb Virgin Atlantic a wedi ymddangos mewn jingls ar y podlediad comedi Answer Me This!.[11] Mae hefyd wedi chwarae rhan y mwni PG Tips'.[12]
Ffilmyddiaeth
golyguBlwyddyn |
Teitl | Rhan | Mwy o wybodaeth |
---|---|---|---|
2014 | Episodes | Aaron | Cyfres deledu - IMDb |
Stella | Andy | Cyfres deledu - Stella ar IMDb | |
Topsy and Tim | Paul | Cyfres deledu - Topsy and Tim ar IMDb | |
2013 | The Search for Simon | Simon (older) | Ffilm - The Search for Simon ar IMDb |
2012 | Walk or Fly | Maths Teacher | Cyfres deledu - Walk or Fly ar IMDb |
World Series of Dating | James Chetwyn-Talbot | Cyfres deledu - World Series of Dating ar IMDb | |
2011 | Holy Flying Circus | Tim Rice | Ffilm deledu |
My Family | Boy | Cyfres deledu "Germs of Endearment" | |
2010 | D.O.A. | Luke Chambers | Cyfres deledu D.O.A ar IMDb |
Hereafter | Man | Hereafter ar IMDb | |
Secret Diary of a Call Girl | Simon | Pennod #3.3 | |
2009 | Doctors | Richie Dunston | Pennod deledu - "Rivals" |
Hotel Trubble | Prince Wally | Pennod deledu - "Royal Trubble" | |
The Boat That Rocked | Undisclosed | The Boat That Rocked ar IMDb | |
2008 | The Wrong Door | Various | The Wrong Door ar IMDb |
2007 | The Scum Also Rises | Billy | Ffilm deledu - The Scum Also Rises ar IMDb |
Living with Two People You Like Individually... But Not as a Couple | Craig | Cyfres deledu - Living with Two People You Like Individually...But Not as a Couple ar IMDb | |
Nuclear Secrets | Pragnell, Max | Cyfres deledu fer - Nuclear Secrets ar IMDb | |
2006–2011 | Torchwood | Andy Davidson | Rhan rheolaidd |
2005 | Swinging | Various | Rhaglen deledu - Swinging ar IMDb |
Absolute Power | Waiter | Cyfres deledu - Absolute Power ar IMDb |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Tom Price". The Comedy Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-07. Cyrchwyd 7 Ebrill 2012.
- ↑ "Torchwood: Week Three Filming". Doctor Who News. 2011-01-30. Cyrchwyd 2012-09-25.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-28. Cyrchwyd 2016-06-19.
- ↑ "World Series of Dating". BBC. 23 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 5 Awst 2011.
- ↑ Edinburgh Festival 2011 listings
- ↑ Kettle, James (23 Gorffennaf 2011). "This week's new comedy". The Guardian. Cyrchwyd 5 Awst 2011.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-15. Cyrchwyd 2016-06-19.
- ↑ [1]
- ↑ What's the Story? on BBC Radio Wales
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-15. Cyrchwyd 2016-06-19.
- ↑ "ANSWER ME THIS! Best Internet Programme 2011 - Sony Radio Academy Awards (Gold)". Answermethispodcast.com. Cyrchwyd 2012-09-25.
- ↑ [2]