Toni Caroll

Actores a chantores o Gymraes (ganed 1949)

Actores a chantores o Gymraes yw Toni Caroll (ganwyd 9 Chwefror 1949),[1] sydd fwyaf adnabyddus am ei rhan yn nrama Con Passionate a'r cymeriad Olwen yn Pobol y Cwm.

Toni Caroll
Ganwyd1949 Edit this on Wikidata
Ystradgynlais Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Carol Ann James yn Ystradgynlais yn unig blentyn i Arthur William James ag Evelyn Llywelyn James. Mynychodd Ysgol Maesydderwen.[2] Yn 15 oed, atebodd hysbyseb yn yr Evening Post a'i gwahoddwyd am glyweliad yn ystafell ddawnsio'r Swansea Embassy. Dechreuodd weithio y diwrnod canlynol gan weithio 7 diwrnod yr wythnos yn y clwb yn ystod bingo a dawnsfeydd. Yno newidiodd ei enw i Toni Caroll.

Yn 1986 ymunodd a Pobol y Cwm fel y cymeriad achlysurol 'Denise', kissogram oedd yn gweithio i gwmni Meic Pierce.  Dychwelodd i'r gyfres yn 1991 fel cymeriad tra gwahanol, Olwen Parry aeth ymlaen i redeg y siop. Arhosodd gyda'r gyfres hyd at 1996 gan wneud ymddangosiadau achlysurol wedi hynny. 

Yn 2015 fe gyhoeddoedd ei hunangofiant Tynnu Colur (Gwasg Gomer).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Edward Wyman Film and TV Agency.
  2. https://www.bbc.co.uk/programmes/p03ghwbb
  3. Rees, Mark. Pobol y Cwm star Toni Caroll reveals all in new autobiography (en) , South Wales Evening Post, 16 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2016.

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.