Con Passionate

cyfres deledu gan S4C

Cyfres ddrama deledu Gymraeg ar S4C yw Con Passionate a ysgrifennwyd gan Siwan Jones a gyfarwyddwyd gan Rhys Powys. Cynhyrchwyd y gyfres gan Teledu Apollo (a brynwyd gan gwmni Boomerang yn 2007).[1]

Con Passionate

Delwedd hysbysebu'r ail gyfres
Ysgrifennwyd gan Siwan Jones
Cyfarwyddwyd gan Rhys Powys
Serennu Shân Cothi
Matthew Gravelle
Ifan Huw Dafydd
William Thomas
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Nifer cyfresi 3
Nifer penodau 26
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 40 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Teledu Apollo
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 16:9
Darllediad gwreiddiol 2005 – 2008
Delwedd hysbysebu'r gyfres gyntaf.

Mae prif blot y gyfres am oblygiadau y gantores, Davina Roberts (Shân Cothi), yn cymryd rôl arweinydd Côr Meibion Gwili. Mae ysbryd y cyn arweinydd, Walford, a fu farw cyn ddechrau'r gyfres gyntaf yn lledrithio cyfeilydd y côr, Brian, drwy gydol y gyfres gyntaf a phennod olaf yr ail gyfres.

Darlledwyd y gyfres gyntaf yn Ionawr a Chwefror 2005 ac fe'i dangoswyd am ail waith yr Hydref honno. Darlledwyd yr ail gyfres ym mis Ebrill a Mai 2006. Darlledwyd y drydedd gyfres ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2008.

Enillodd Con Passionate y wobr am y ddrama orau yng Ngwobrau Rose d'Or yn 2007, y rhaglen Gymraeg gyntaf erioed i wneud hynny.

Cast a chymeriadau golygu


Dolenni Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Boomerang buys rival television producer (en) , WalesOnline, 28 Ebrill 2007. Cyrchwyd ar 20 Mai 2016.