Tonic sol-ffa

Techneg addysgu ar gyfer canu ar yr olwg gyntaf yw tonic sol-ffa. Cafodd y tonic ei ddyfeisio gan Sarah Ann Glover (1785–1867) o Norwich yn Lloegr, a'i boblogeiddio gan John Curwen drwy ei addasu o nifer o systemau cerddorol blaenorol. Yng Nghymru, roedd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn yr ysgolion Sul tan o leiaf ganol yr ugeinfed ganrif er mwyn dysgu plant i ganu ar yr olwg gyntaf. Mae cefnogwyr y dechneg yn dadlau bod sol-ffa yn ffordd haws o ddarllen cerddoriaeth i ganu, ac mae galwadau wedi bod i ailddechrau dysgu'r dechneg i blant.[1]

Tabl sol-ffa mewn ystafell ddosbarth

Mae'r tonic sol-ffa yn defnyddio system o nodau cerddorol sy'n seiliedig ar Do symudol, lle mae pob tôn yn cael enw yn ôl ei berthynas â'r tonau eraill yn y cywair: mae nodau cerddorol hen nodiant yn cael eu cyfnewid am sillafau sol-ffa (e.e. do, re, mi, ffa, sol, la, ti, do) neu eu byrfoddau (d, r, m, f, s, l, t, d). Mae "do" yn cael ei ddewis fel tonic beth bynnag fo'r cywair; dyna pam y dywedir bod Do yn symudol. Roedd y drefn sol-ffa wreiddiol yn dechrau gydag "Ut", a ddaeth yn "Do" yn ddiweddarach.

Mae arwyddion llaw hefyd i'w cael sy'n cynrychioli'r nodau yn y tonic sol-ffa.

Arwyddion llaw ar gyfer y Tonic Sol-ffa.

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhoi ail wynt i 'do, re, mi'". BBC Cymru Fyw. 30 Mehefin 2019. Cyrchwyd 23 Mai 2021.