Pryd o fwyd Japaneaidd yw Tonkatsu (豚カツ, とんかつ or トンカツ, pronounced [toŋꜜkatsɯ]; "cytled cig moch"), sy'n cynnwys cytled cig moch mewn briwsion bara, wedi'i ffrio'n dwfn / cig moch tempura. Mae'n angen torri canol cefn y mochyn yn dafelli 2-3 centimetr o drwch, eu gorchuddio â panko (briwsion bara), eu ffrio mewn olew, ac yna eu rhoi ar y plât gyda gyda saws 'Worcestershire' o Japan, reis a salad llysiau (bresych yn bennaf). Y ddau brif fath yw ffiled a lwyn.

Tonkatsu

Geirdarddiad golygu

Mae'r gair tonkatsu yn gyfuniad o'r gair Sino-Japaneaidd ton () sy'n golygu "mochyn", a katsu (カツ), sy'n ffurf fyrrach o katsuretsu (カツレツ ), trawslythreniad o'r gair Saesneg 'cutlet', a oedd eto'n deillio o'r gair Ffrangeg 'côtelette', sy'n golygu "torri cig".

Hanes golygu

Gwreiddiodd Tonkatsu yn Japan yn y 19g. Cig eidion oedd katsuretsu cynnar fel rheol; a dyfeisiwyd y fersiwn cig moch yn Japan ym 1899 mewn bwyty o'r enw Rengatei yn Tokyo .[1][2][3] Yn wreiddiol, fe'i hystyriwyd yn fath o yōshoku - fersiynau Japaneaidd o fwyd Ewropeaidd a ddyfeisiwyd ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g - ac fe'i galwyd yn katsuretsu neu'n katsu.[4]

Cafodd ei alw'n 'Pork katsuretsu,' 'Porky katsuretsu' a 'Tonkatsu', ond dim ond ar ôl 1959 defnyddiwyd yr enw 'Tonkatsu'.[5]

Paratoi ac amrywiadau golygu

 
Brechdan tonkatsu (katsu sando)

Gellir ddefnyddio naill ai ffiled cig moch (ヒレ hire) neu lwyn cig moch (ロース rōsu); mae'r cig fel arfer yn cael ei halltu, yna ychwanegu pupur, ei orchuddio'n ysgafn mewn blawd, ei orchuddio mewn wy wedi'i guro, ac yna ei orchuddio â panko (briwsion bara), cyn cael ei ffrio'n ddwfn.[6]

Yn gyffredinol rhoddir Tonkatsu ar blât gyda bresych wedi'i falu. Mae'n cael ei fwyta'n fwyaf aml gyda math o saws brown trwchus o'r enw saws tonkatsu neu sōsu (saws), karashi (mwstard), ac efallai sleisen o lemwn. Fel arfer rhoddir ar blât gyda reis, cawl miso a tsukemono a'i fwyta gyda gweillen fwyta (chopsticks). Weithiau byddai'n cael ei fwyta gyda ponzu a daikon wedi ei gratio yn lle'r saws tonkatsu.

 
Cyri katsu
 
Bwyty tonkatsu "Katsuya" yn Roppongi, Minato, Tokyo, Japan

Mae Tonkatsu hefyd yn boblogaidd fel llenwad brechdan (katsu sando), neu wedi ei fwyta gyda cyri Japaneaidd (katsu karē). Weithiau mae Tonkatsu yn cael ei fwyta gydag wy mewn fowlen fawr o reis fel katsudon.

Yn Nagoya a'r ardaloedd cyfagos, mae miso katsu, tonkatsu wedi'i fwyta gyda saws wedi'i seilio ar hatchō miso, yn arbenigedd.[7]

Gellir gwneud amrywiadau ar tonkatsu trwy frechdanu cynhwysyn fel caws neu ddeilen shiso rhwng y cig, cyn ei orchuddio â bara a'i ffrio. Weithiau caiff konnyaku ei frechdanu yn y cig fel pryd calori isel.

Mae sawl amrywiad o tonkatsu yn amnewid y cig moch am cynhwysyn arall:

  • Katsu cyw iâr (チキンカツ) neu Tori katsu ( 鶏カツ), sy'n defnyddio cyw iâr yn lle cig moch. Mae'n aml yn ymddangos mewn ciniawau o Hawaii.
  • Menchi-katsu (メンチカツ) neu minchi katsu (ミンチカツ katsu mins), yn defnyddio cig mins mân.
  • Hamu katsu (ハムカツ katsu ham), yn amnewid cig moch am ham. Mae fel arfer yn cael ei ystyried yn ddewis rhatach na tonkatsu.
  • Gyū katsu (牛カツ katsu cig eidion), a elwir hefyd yn bīfu katsu, yn amnewid cig moch am cig eidion. Mae'n boblogaidd yn rhanbarth Kansai o amgylch Osaka a Kobe.

Gelwir pryd o fwyd tebyg i tonkatsu, ond gyda chynhwysion heblaw am cig moch, cig eidion, neu gyw iâr, yn furai (ffrio), nid katsu (cwtled). Mae hwn yn cynnwys aji-furai (macrell wedi'i ffrio) ac ebi-furai (corgimwch wedi'i ffrio).

Cyfeiriadau golygu

  1. 岡田, 哲. とんかつの誕生―明治洋食事始め. t. 166.
  2. 小菅, 桂子. にっぽん洋食物語大全. t. 122.
  3. Kaneko, Amy (2007). Let's Cook Japanese Food!: Everyday Recipes for Home Cooking. Chronicle Books. t. 101. ISBN 0-8118-4832-9.
  4. Jennifer Ellen Robertson, gol. (2005). A companion to the anthropology of Japan. Wiley-Blackwell. t. 421. ISBN 0-631-22955-8.
  5. 오카다 데쓰. 2006. tt. 217–218.
  6. Tsuji, Shizuo; Fisher, M. F. K. (2007). Japanese Cooking: A Simple Art. Kodansha International. t. 240. ISBN 4-7700-3049-5.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-10. Cyrchwyd 2019-11-14.