Mae Osaka yn ddinas fawr yng Ngorllewin Japan (poblogaeth tua 2.6 miliwn), prifddinas talaith Osaka. Mae Osaka'n ail i Tokyo yn unig o ran ei phwysigrwydd economaidd ac yn drydedd yn y wlad ar ôl y brifddinas a Yokohama yn nhermau ei phoblogaeth. Mae'n ddinas fodern iawn, brysur a gweithgar, heb atyniadau hanesyddol arbennig.

Osaka
Osaka montage.jpg
Emblem of Osaka, Osaka.svg
Math dinasoedd dynodedig Japan, capital of a prefecture of Japan, dinas â miliynau o drigolion, dinas â phorthladd Edit this on Wikidata
Poblogaeth 2,740,202 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1889 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Ichirō Matsui Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sir Osaka Edit this on Wikidata
Gwlad Japan Edit this on Wikidata
Arwynebedd 223,000,000 m² Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Higashi-Yokobori, Ajigawa Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Sakai, Higashiōsaka, Matsubara, Yao, Daitō, Kadoma, Moriguchi, Settsu, Suita, Toyonaka, Amagasaki Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 34.6936°N 135.5019°E Edit this on Wikidata
Cod post 530-0002–559-0034 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Cyngor Dinas Osaka Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Ichirō Matsui Edit this on Wikidata

HanesGolygu

 
Adeilad Umeda Sky, Osaka

Roedd Osaka yn borthladd fasnachol bwysig mor belled yn ôl â'r 7g, ond ni ddatblygodd lawer tan y 16g. Dyna bryd dewisodd Toyotomi Hideyoshi, oedd newydd uno'r wlad, Osaka fel safle i gastell strategaidd. Ymsefydlodd marsiandïwyr o gwmpas y castell newydd a thyfodd y ddinas yn gyflym i ddod yn ganolfan fasnach bwysig.

Er i glan y Toyotomi gael eu gorchfygu gan glan y Tokugawa yn gynnar yn y 17g, mewn ymryson a welodd gastell Osaka yn cael eu llosgi'n ulw, ailadeiladwyd y castell gan y Tokugawa a pharhaodd y ddinas i ffynnu.

Ar 1 Medi 1956 daeth Osaka yn ddinas dynodedig.

Erbyn heddiw mae economi Osaka a'i rhanbarth yn fwy nag economi Awstralia ac mae rhai economegwyr wedi darogan y bydd Osaka ryw ddydd yn goddiweddu Tokyo fel deinamo economaidd y genedl.

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

EnwogionGolygu

Gefeillddinasoedd a gefeillborthfeyddGolygu

Gefeillddinasoedd:

Dinasoedd cyfeillgarwch a chydweithredu:

Cysylltiadau allanolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato