Tor Nørretranders
Awdur gwyddoniaeth boblogaidd o Ddenmarc ydyw Tor Nørretranders (ganwyd 20 Mehefin 1955, yn København).
Tor Nørretranders | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 20 Mehefin 1955 ![]() Copenhagen ![]() |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, science journalist, cofiannydd ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Bjarne Nørretranders ![]() |
Gwobr/au | Publicistprisen, Den faglitterære pris ![]() |
Gwefan | http://www.tor.dk/ ![]() |
Agwedd tuag at addysg
golyguMynegodd ei farn ar haniaeth addysg yn ei lyfr Maerk Verden (1991). Mae Tør Nørretranders yn dweud pan ydym yn siarad ein bod yn ymwybodol o’r geiriau a ddefnyddir ond fod y rhan fwyaf o’r ymgom yn digwydd y tu fewn i’n ymennydd. Mewn gair, fod ein synhwyrau i gyd ar waith ac nid yn unig ein clustiau. Defnyddia hanes dyn dall a gafodd lawdriniaeth i weld eto i egluro ei ddamcaniaeth. Roedd y dyn wedi bod yn ddall am 52 mlynedd gyntaf ei oes, ac ar ôl y llawdriniaeth, er ei fod yn gallu gweld, roedd yn rhaid iddo gyffwrdd pethau yn gyntaf cyn eu canfod yn iawn. Roedd yn defnyddio ei gof o deimlo pethau i weld pethau gyda'i lygaid. Y wers i ddarlithwyr yw pwysigrwydd cyffwrdd pethau, gan fod yna dri math o ddysgu i gael:-
- Dysgu Ffurfiol - sef dysgu gwybodaeth a chysyniadau damcaniaethol
- Dysgu Greddfol – sef dysgu wrth ddeall fod pethau yn gwneud synnwyr
- Dysgu drwy wneud - sef dysgu drwy gyffwrdd, arbrofi ymarferol
Rydym yn dysgu yn ôl Tør Nørretranders nid drwy ein hymwybyddiaeth yn unig ond drwy ganfod isymwybodol pan rydym yn gwneud penderfyniadau i dderbyn neu wrthod y wybodaeth sy’n dod drwy ein synhwyrau i gyd yn reddfol.
Mae Tør Nørretranders yn rhoi enghraifft o hyn drwy sôn am y modd y byddem yn disgrifio wyneb Marilyn Monroe. Y geiriau sy’n dod i’r meddwl yw merch gwallt golau, yn gwenu efallai. Ond nid yw hyn y disgrifiad da. Gallwch chi wneud yn well efallai? Ond ni fyddai’r disgrifiad uchod yn ddigon. Eto byddai dangos hyd yn oed darn o lun ohoni yn llawn digon i bobl i’w hadnabod. Y gwir yw pan ddefnyddiwn eiriau yn unig rydym yn ddibynnol fod gan eraill hefyd wybodaeth ddealledig i lenwi’r tyllau yn ein disgrifiadau. Cymrwn fod hi’n ddealledig fod gan bawb fwy o wybodaeth nag sy’n bosib iddynt ddisgrifio i ni. Yr unig broblem sy’n gallu codi yw pan mae'r hyn sy’n ddealledig i ni ddim yn ddealledig yn yr un modd yn union i berson arall.
Felly fel darlithwyr dim ond hyn a hyn o wybodaeth y gallwn ni ei drosglwyddo yn uniongyrchol drwy eiriau i’r myfyrwyr, mae’r gweddill yn gorfod bod yn ddealledig. Yr unig ffordd i ddysgu crefft neu sgìl i berson arall yw nid drwy ei ddisgrifio yn fanwl ond drwy ei wneud. Fel y dywed Tør Nørretranders yr unig ffordd gall garddwyr gael “bysedd gwyrdd” yw drwy gael ei bysedd yn fudr!” Mae hyn y pwysleisio’r angen i ni ddysgu drwy wneud.