Copenhagen
prifddinas Denmarc
Copenhagen (Daneg: København ) yw prifddinas Denmarc a'i phrif borthladd, ar arfordir dwyreiniol Sjælland ar lan y Môr Baltig gyferbyn â Malmö yn Sweden.
![]() | |
![]() | |
Math | y ddinas fwyaf, cycling city, dinas, dinas fawr, national capital ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 644,431 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Sophie Hæstorp Andersen ![]() |
Cylchfa amser | CET ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Daneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Capital Region of Denmark ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 90.9 km² ![]() |
Uwch y môr | 14 metr ![]() |
Gerllaw | Øresund ![]() |
Cyfesurynnau | 55.6761°N 12.5689°E ![]() |
Cod post | 1000 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Sophie Hæstorp Andersen ![]() |
![]() | |
Hanes
golyguRoedd trigfan yn Copenhagen mor gynnar â dechrau'r 9g. Yn y flwyddyn 1443 daeth yn brifddinas Denmarc.
Atyniadau
golyguMae'r adeiladau nodedig yn cynnwys Palas Charlottenborg (17g: Academi Frenhinol y Celfyddydau Cain heddiw) a Phalas Christiansborg sy'n gartref i swyddfeydd senedd Denmarc heddiw. Cedwir nifer o drysorau o'r gorffennol yn Amgueddfa Genedlaethol Denmarc, a leolir yn y ddinas, yn cynnwys rhai o longau'r Llychlynwyr a Phair Gundestrup.
Chwaraeon
golyguCeir dau brif tîm pêl-droed broffesiynol yn y ddinas - F.C. København a Brøndby IF.
Enwogion
golygu- Niels Gade (1817-1890), cyfansoddwr
- Alexandra o Ddenmarc (1844-1925), Tywysoges Cymru 1863-1901 a brenhines y Deyrnas Unedig 1901-1910
- Niels Bohr (1885-1962), ffisegydd
- Sandi Toksvig (g. 1958), comediwr a chyflwynydd radio