Agor y brif ddewislen
Babi yn cael ei esgor trwy doriad C

Toriad Cesaraidd, neu doriad C yw'r defnydd o lawdriniaeth i esgor ar un neu ragor o fabanod[1]

Defnydd meddygolGolygu

Mae toriad Cesaraidd yn aml yn angenrheidiol pan fyddai esgor trwy'r wain yn peri perygl i'r babi neu'r fam. Gallai hyn gynnwys cyfnod o wewyr esgor gwael, atalfa esgor, esgor ar ddau neu ragor o efeilliaid, pwysedd gwaed uchel yn y fam, esgoriad ffolennol, neu broblemau gyda'r brych neu'r llinyn bogail. Gellir penderfynu perfformio toriad Cesaraidd yn seiliedig ar siâp pelfis y fam neu hanes o gael toriad C blaenorol. Gellir rhoi prawf ar roi enedigaeth trwy'r wain ar gyfer esgor ar blant eraill ar ôl cael toriad C blaenorol. Cynghorir mamau sydd wedi rhoi genedigaeth trwy doriad C ddwywaith i osgoi beichiogi eto. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod toriad Cesaraidd yn cael ei berfformio yn unig pan fo angen meddygol[2]. Perfformir rhai toriadau C heb reswm meddygol, ar gais gan rywun, fel arfer y fam

PeryglonGolygu

Mae toriadau C yn arwain at gynnydd bychan cyffredinol mewn canlyniadau gwael mewn beichiogrwydd risg isel. Yn nodweddiadol, maen nhw hefyd yn cymryd mwy o amser i wella, tua chwe wythnos, na genedigaeth trwy'r wain. Mae'r risgiau uwch yn cynnwys problemau anadlu yn y baban ac embolism hylif amniotig a gwaedu ôl-enedigol yn y fam. Mae'r canllawiau sefydledig yn argymell na chaiff toriadau Cesaraidd cael eu defnyddio cyn 39 wythnos o feichiogrwydd heb reswm meddygol.[3] Nid yw'n ymddangos bod y weithdrefn yn cael effaith ddilynol ar allu na mwynhad rhywiol y fam.

Yn y rhai sydd mewn perygl isel, mae'r risg o farwolaeth o ganlyniad i doriad Cesaraidd yn 13 o bob 100,000 ac ar gyfer enedigaeth trwy'r wain yn 3.5 o bob 100,000 yn y byd datblygedig. Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol y Deyrnas Unedig yn rhoi'r risg o farwolaeth ar gyfer y fam fel tair gwaith yn uwch nag enedigaeth trwy'r wain.[4]. Ond mae'n bwysig nodi bod y gwir risg o farwolaeth yn y naill sefyllfa neu'r llall yn fach iawn mewn lleoliadau cyfoethog eu hadnoddau.

HanesGolygu

Mae'r weithdrefn wedi cael ei ddefnyddio ers o leiaf 715CC. Yn draddodiadol fe'i defnyddiwyd yn dilyn marwolaeth y fam gyda'r babi yn goroesi yn achlysurol iawn. Ceir adroddiadau o famau sydd wedi goroesi'r llawdriniaeth o'r 1500au. Gyda chyflwyno antiseptig ac anesthetig yn y 1800au bu goroesiad y fam a'r babi yn fwy gyffredin.

Bu gred bod y weithdrefn wedi ei enwi ar ôl Iŵl Cesar, ymerawdwr Rhufain, gan ei fod ef wedi ei eni trwy doriad o'r fath. Er bod toriadau Cesaraidd yn cael eu perfformio yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, nid oes ffynhonnell glasurol yn cofnodi bod mam wedi goroesi o'r fath driniaeth. Bu fam Iŵl Cesar, Aurelia Cotta, byw am 46 mlynedd wedi genedigaeth ei mab.[5]

CyfeiriadauGolygu

  1. Office on Women’s Health, U.S. Department of Health and Human Services Labor and birth adalwyd 28/03/2018
  2. WHO Statement on Caesarean Section Rates adalwyd 28/03/2018
  3. WEB MD Cesarean Section - Risks and Complications adalwyd 28/03/2018
  4. "Caesarean Section". NHS Direct. Archifwyd o y gwreiddiol ar 1Chwefror 2009. Cyrchwyd 2018-03-28.
  5. history Co-operative The Origins of Caesarian Section adalwyd 28/03/2018