Esgoriad ffolennol

geni babi pen ôl yn gyntaf

Mae esgoriad ffolennol yn digwydd pan gaiff babi ei eni tin yn gyntaf yn hytrach na phen yn gyntaf. Ffolen (lluosog: ffolennau) yw boch tin / pen ôl[1].

Esgoriad ffolennol
Mathobstructed labor, Cyflwyniad y ffetws, malpresentation of fetus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyflwyniad ffolennol didwyll cyn esgor ffolennol (gan William Smellie - tua 1792

Amlder

golygu

Bydd gan ryw 3-5% o ferched beichiog yn ystod eu llawn dymor (37-40 wythnos yn feichiog) babi sy’n cyflwyno ar ei ffolennau[2]. Caiff y rhan fwyaf o fabanod yn y safle ffolennol eu geni trwy doriad Cesaraidd gan ei fod yn cael ei ystyried yn fwy diogel na geni trwy'r wain[3].

Mathau o gyflwyniad

golygu

Mae mathau gwahanol o gyflwyniad ffolennol sy'n dibynnu ar sut mae coesau'r babi yn gorwedd.

  • Cyflwyniad ffolennol didwyll yw un lle mae coesau'r babi wrth ymyl ei abdomen, gyda'i bengliniau yn syth a'i draed wrth ymyl ei glustiau. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ymddangosiad ffolennol.
  • Cyflwyniad ffolennol hyblyg yw un lle fydd y babi yn ymddangos fel pe bai'n eistedd yn groes-coes gyda'i goesau yn plygu ar y cluniau a'r pen-gliniau.
  • Cyflwyniad ffolennol troed flaen yw un lle fydd un neu ddau o draed y babi yn ymddangos yn gyntaf yn lle'r ffolennau. Mae hyn yn fwy cyffredin mewn babanod a anwyd yn gynamserol neu cyn eu dyddiad priodol.

Achosion

golygu

Mewn tua 50% o achosion, ni ellir canfod achos dibynadwy am esgor ffolennol. Mewn mwy na 50% o achosion bydd y fam yn esgor ar ei phlentyn cyntaf-anedig. Mewn astudiaeth Norwyaidd, dangoswyd bod perthynas genetig neu deuluol: roedd dynion a menywod, a oedd wedi eu hesgor yn ffolennol 2.3 gwaith mwy tebygol o gael plentyn trwy esgoriad ffolennol na'r rhai a anwyd pen yn gyntaf.[4]

Mae ffactorau posib, sy'n ymwneud a'r plentyn a'r groth am gyflwyno yn ffolennol yn cynnwys:

Mae ffactorau mamol posibl am gyflwyno yn ffolennol yn cynnwys gamffurfiad y pelfis, tiwmorau cenhedlol a phelfig neu gamffurfiad y groth.

Esgor ar y baban

golygu

Mae'r rhan fwyaf o fabanod sydd yn cyflwyno'n ffolennol wedi 32 i 34 wythnos yn troi eu hunain i fod yn y safle pen yn gyntaf.

Troi'r baban

golygu

Os yw'r babi yn dal i fod yn y safle ffolennol wedi 37 wythnos, efallai y bydd yn bosibl i obstetregydd ei droi yn ben i lawr gan ddefnyddio techneg o'r enw fersiwn ceffalig allanol (external cephalic version neu ECV)[5].. Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel obstetregydd, yn ceisio troi'r babi i mewn i safle pen-i-lawr trwy roi pwysau ar yr abdomen. Mae'n weithdrefn ddiogel, er y gall fod ychydig yn anghyfforddus. Gellir troi tua 50% o fabanod ffolennol trwy ddefnyddio ECV, gan ganiatáu geni normal trwy'r wain.

Toriad Ceseraidd

golygu

Os bydd babi yn parhau i fod yn safle ffolennol tuag at ddiwedd beichiogrwydd, bydd y fam yn cael cynnig opsiwn toriad Ceseraidd. Mae ymchwil wedi dangos bod toriad Ceseraidd a gynlluniwyd yn fwy diogel ar gyfer y babi nag esgoriad ffolennol trwy'r wain[6].

Esgor trwy'r wain

golygu

Mae modd i esgor baban sydd yn cyflwyno'n ffolennol trwy'r wain. Mae meddygon yn cynghori'n gryf rhag yr opsiwn hwn os yw[7]:

  • y baban babi yn ffolennol troed flaen (mae un neu ddau o draed y babi yn is na'i ben ôl)
  • y baban yn fwy neu'n llai na'r cyfartaledd
  • gwddf y baban wedi'i gogwyddo tua'n hôl (gor-estynedig)
  • mae'r brych yn gorwedd yn isel (placenta praevia)
  • y fam yn dioddef o gyneclampsia neu unrhyw broblemau beichiogrwydd eraill

Enwogion wedi eu geni trwy esgoriad ffolennol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Andreas Ficklscherer: BASICS Orthopedics and Traumatology. Urban & Fischer at Elsevier, Amsterdam 2012, ISBN 978-3-437-42208-9
  2. Miller EC, Kouam L (1981). "Frequency of breech presentation during pregnancy and on full term". Zentralbl Gynakol. 103: 105–109
  3. Baby Center Breech birth adalwyd 29/03/2018
  4. Nordtweit TI et al.: Maternal and paternal contribution to intergenerational recurrence of breech delivery: population based cohort study, 2008
  5. Natural Childbirth Trust Breech babies and birth adalwyd 29/03/2018
  6. Royal College of Obstetricians and Gynaecologists Breech baby at the end of pregnancy adalwyd 29/03/2018
  7. NHS UK What happens if your baby is breech? adalwyd 29/03/2018
  8. New York Times 09/12/ 2002 From a Radical Background, A Rhodes Scholar Emerges adalwyd 28/03/2018
  9. The Humor Code "I Am Comic" Director Jordan Brady on Spit Takes and the Downside of Supportive Audiences adalwyd 28/03/2018
  10. The New Atheist Crusaders and Their Unholy Grail: The Misguided Quest to Destroy Your Faith; Awdur Garrison, Becky; Cyhoeddwr Thomas Nelson Inc, 2008; tud 34
  11. Billy Joel on not working, not giving up drinking and not caring what Elton John says about any of itNew York Times Magazine, 26 Mai 2013 adalwyd28/03/2018
  12. Great balls of wax adalwyd 28/03/2018
  13. Music for your soul Archifwyd 2016-04-22 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28/03/2018
  14. Geffcken, Katherine A.; Dickison, Sheila Kathryn; Hallett, Judith P. (2000). Rome and Her Monuments: Essays on the City and Literature of Rome in Honor of Katherine A. Geffcken. Bolchazy-Carducci Publishers. t. 496.
  15. O'Neal, Tatum. A Paper Life. HarperCollins. t. 14.
  16. Shields, David (2009). The Thing about Life Is That One Day You'll Be Dead. Random House LLC. t. 4.
  17. Santopietro, Tom. Sinatra in Hollywood. Macmillan. t. 12.
  18. Putnam, William L. (2001). The Kaiser's merchant ships in World War I. tt. 33.
  19. Winick, Judd (2000). Pedro and Me: Friendship, Loss, and What I Learned. Henry Holt & Co. pp. 33-36.
  20. Miles, Barry (2004). Zappa. Grove Press. t. 5.