Torlun pren

(Ailgyfeiriad o Torluniau pren)

Techneg argraffu cerfweddol yw torlun pren. Mae arlunydd yn tynnu llun ar wyneb darn gwastad o bren – y bloc – ac yna mae'n cerfio i ffwrdd yr ardal o gwmpas y delwedd. (Weithiau mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan grefftwr arbenigol.) Mae'n incio'r ddelwedd, sy'n sefyll yn glir o'r wyneb yn awr, yn gosod darn o bapur ar y bloc, a'i wasgu i lawr. Dim ond y ddelwedd ar yr wyneb uchel yn cael ei throsglwyddo i'r papur.

Torlun pren
Enghraifft o'r canlynoltechneg mewn celf Edit this on Wikidata
Mathargraffu cerfweddol, engrafio ar bren, printing process Edit this on Wikidata
Cynnyrchtorlun pren Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

A bod yn fanwl gywir, mewn torlun pren, torrir y bloc ar hyd graen ochr y bloc; pan dorrir y bloc ar raen ben y bloc, y canlyniad yw engrafiad pren. Yn gyffredinol, gall engrafiad pren gynnwys mwy o fanylion na thorlun pren. Fodd bynnag, yn aml mae angen llygad craff i weld y gwahaniaeth rhwng y ddau fath.

Dim ond ychydig o bwysau sydd ei angen i argraffu o dorlun pren. Mae hyn yn wahanol i dechnegau argraffu intaglio fel ysgythru ac engrafio, sydd angen rhyw fath o wasg argraffu.

Yn Ewrop, defnyddiwyd sawl math o bren ar gyfer y bloc, gan gynnwys pren bocs a phren ffrwythau (pren gellyg neu bren ceirios, er enghraifft); yn Japan, defnyddiwyd pren y rhywogaeth geirios Prunus serrulata.

Hanes golygu

Tarddodd torluniau pren yn Tsieina hynafol fel dull o argraffu ar decstilau ac yn ddiweddarach ar bapur. Cyrhaeddodd y dechneg Ewrop yn y 13g, a daeth yn eang yno erbyn canol y 15g. Yn y cyfnod hwn roedd llawer iawn o'r gwaith yn ansoffistigedig ac yn eithaf amrwd, ond defnyddiodd nifer o artistiaid o ddiwedd y ganrif (yn enwedig Albrecht Dürer) y dechneg i gynhyrchu canlyniadau gwych. Torlun pren oedd y prif gyfrwng ar gyfer lluniau mewn llyfrau printiedig rhwyng canol y 15g a diwedd yr 16g.

Cyrhaeddodd y torlun pren lefel uchel o ddatblygiad technegol ac artistig yn Nwyrain Asia ac Iran. Dechreuodd y traddodiad Siapaneaidd o argraffu torlun pren o'r enw moku-hanga yn y 17g. Defnyddiwyd hwn yn genre o brintiau o'r enw ukiyo-e ("lluniau o'r byd cyfnewidiol"). Weithiau roedd y rhain yn cael eu lliwio â llaw ar ôl eu hargraffu. Yn ddiweddarach, datblygwyd printiau gyda llawer o liwiau. Yn y 1860au dechreuodd y printiau lliw Siapaneaidd hyn gyrraedd Ewrop a daethant yn ffasiynol, yn enwedig yn Ffrainc. Cawsant ddylanwad mawr ar lawer o artistiaid yno, yn benodol Édouard Manet, Henri de Toulouse-Lautrec, Edgar Degas, Paul Gauguin a Vincent van Gogh.

O ddiwedd y 19eg ganrif dechreuodd nifer o artistiaid modernaidd – Edvard Munch a'r Mynegwyr Almaeneg yn benodol – werthfawrogi toriadau coed am eu uniongyrchedd a'u grym seicolegol.