Albrecht Dürer
Paentiwr ac arlunydd o'r Almaen oedd Albrecht Dürer (21 Mai 1471 – 6 Ebrill 1528), a anwyd yn Nürnberg.
Albrecht Dürer | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Mai 1471 ![]() Nürnberg ![]() |
Bu farw | 6 Ebrill 1528, 6 Ebrill 1528 ![]() Nürnberg ![]() |
Man preswyl | Fenis, Nürnberg ![]() |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Bafaria ![]() |
Galwedigaeth | arlunydd, engrafwr, mathemategydd, goleuwr, engrafwr plât copr, damcaniaethwr celf, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, darlunydd, arlunydd graffig ![]() |
Adnabyddus am | Melencolia I ![]() |
Arddull | portread ![]() |
Prif ddylanwad | Michael Wolgemut ![]() |
Mudiad | y Dadeni Almaenig ![]() |
Tad | Albrecht Dürer the Elder ![]() |
Mam | Barbara Dürer ![]() |
Priod | Agnes Dürer ![]() |
Perthnasau | Hieronymus Holper, Hans Frey ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Eurydd oedd tad Dürer, a'i fam yn ferch eurydd. Digon anodd oedd dyddiau cynnar y teulu yn rhif 20 Winklertsrasse, apartment bach cyfyng ger y farchnad, ond symudodd y teulu i ardal bourgeoise Burgstrasse pan oedd Dürer yn 4 oed ac o hynny ymlaen gwellhaodd amyglchiadau'r teulu. Astudiodd Albrecht am ddwy flynedd yn yr ysgol ramadeg leol ac yna weithiodd fel prentis i'w dad. Yn 1486 dechreuodd weithio yn stiwdio-weithdy yr artist Michael Wohlgemut lle dysgodd grefft lliwiau. Roedd Wohlgemut yn ffigwr pwysig ym mywyd artistig Ffranconia ac yn enwog am ei ddarluniau i lyfrau; cafodd ddylanwad mawr ar waith Dürer.
Rhwng 1490 a 1491 cymerodd Albrecht ei Wanderjahre, blwyddyn o deithio ar ôl gorffen ei brentisiaeth. Cyrhaeddodd Basel yn y Swistir yn 1491 a chafodd le gyda'r cyhoeddwyr Amerbach a Kessler. Mae nifer o'r lluniau bloc pren a wnaeth yno wedi goroesi. Pan ddychwelodd i Nürnberg yn 1493 cafodd fod priodas wedi ei threfnu iddo â phriododd Agnes Frey; am weddill ei oes byddai'n edifarhau am ildio i ewyllys ei dad a dioddef priodas caled. Roedd ei wraig yn ddynes galed a hynod ariangar a gorfodai Dürer i weithio dydd a nos; dioddefodd afiechydion mewn canlyniad.
Ffoes yr artist i'r Eidal lle cafodd ysbrydoliaeth newydd, yn arbennig yn Fenis a dylanwad Andrea Mantegna a Giovanni Bellini. Agorodd stiwdio newydd pan ddychwelodd i'w dref enedigol yn 1497 ac enillodd nawdd Friedrich III, Etholwr Sacsoni. Mabwysiadodd y monogram enwog "AD". Roedd ei fri'n ymledu. Dychwelodd i'r Eidal yn 1507, yn rhannol er mwyn dianc rhag y Pla (bu farw bron i hanner poblogaeth Nürnberg ohono). Gadawodd ei wraig yno.
Dychwelodd yn 1509. Roedd ganddo ei brentisiaid ei hun erbyn hyn ac roedd wedi ennill comisiynau gan siambr fasnach bwerus y ddinas ar gyfer ymweliad yr Ymerodor Maximilian yn 1512. Cafodd bensiwn am oes yn ddiolch ganddo.
Bu farw ei fam yn 1514 a chafodd ei dioddefiant, ar ôl dwyn 18 plentyn i'r byd a gweld claddu 15 ohonynt, effaith ysgytwol ar Albrecht a daeth Angau yn ffigwr pwysig ac amlwg yn ei waith diweddar, fel yn achos y darlun alegorïaidd enwog Y Marchog, Angau a'r diafol, sy'n symboleiddio dewrder y Lutheriaid.
Aeth i Aachen yn 1520 i sicrhau ei bensiwn yn sgîl marwolaeth Maximilian; taith anodd a hir a welodd ei iechyd yn dirywio ond a ddaeth ag ysbrydoliaeth newydd iddo yn ogystal. Yn 1526 cwblhaodd ei waith pwysig Y Pedwar Efengylwr i Siambr y Ddinas. Roedd ei fri ar ei anterth ond syrthiodd yn sâl eto fuan wedyn. Roedd yn effro trwy'r nos a dioddefai weledigaethau dychrynllyd, apocalyptaidd, sy'n sail i rai o'i weithiau olaf. Er gwaethaf hynny parhaodd i weithio ar ei lyfr pwysig a dylanwadol Traethawd ar Gydbwysedd. Bu farw yn gynnar yn y bore ar 6 Ebrill, 1528. Fe'i claddwyd ym Mynwent St Johannis, yn Nürnberg.
LlyfryddiaethGolygu
- Nigel Lambourne, Albrecht Dürer (Llundain, 1969).