Tortilla española
Pryd o fwyd traddodiadol o Sbaen yw tortilla española (a elwir hefyd yn tortilla de patatas neu tortilla de papas). Mae'n cael ei wneud gydag wyau a thatws, weithiau hefyd gyda winwns a / neu sifalod neu garlleg. Mae'n cael ei ffrio mewn olew ac yn aml yn cael ei fwyta'n oer fel pryd i godi blys. Mae'n rhan o goginiaeth Sbaen.
Math | appetizer, saig tatws, saig o wyau |
---|---|
Label brodorol | tortilla de patata |
Gwlad | Sbaen |
Rhan o | coginiaeth Sbaen |
Yn cynnwys | chicken egg, halen, olew olewydd, nionyn, potato |
Enw brodorol | tortilla de patata |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn Sbaeneg, mae tortilla yn ffurf bachigol o'r gair torta, sef "cacen". Celwir y ddysgl hon yn tortilla de patatas neu tortilla española i'w wahaniaethu oddi wrth omled plaen (tortilla francesa, yn llythrennol "omelette Ffrengig"). Nid yw'r prydau hyn yn gysylltiedig â'r tortilla india corn neu wenith o Mecsico a gwledydd cyfagos, sy'n fath o fara gwastad tenau. Yn y rhan fwyaf o America Sbaenaidd, lle mae'r bara fflat a'r omled tatws yn cael eu bwyta, gelwir yr omled yn tortilla española i'w wahaniaethu oddi wrth y tortilla indrawn [1] Oherwydd bod y tatws yn cael ei alw'n papa mewn llawer o America Sbaenaidd (yn hytrach na'r term patata a ddefnyddir yn Sbaen), weithiau bydd y pryd hwn yn cael ei gyfeirio ato fel tortilla de papas yn y rhanbarth hefyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Receta de Tortilla de patatas o tortilla española" [Recipes for tortilla de patatas or tortilla española]. solorecetas.com (Sbaen) (yn Sbaeneg). 20 Chwefror 2018. Cyrchwyd 5 Mawrth 2017.