Tra Bo Dai
Ail gyfrol hunangofiannol Dai Jones, Llailar a sgwennwyd ganddo ef ei hun a Lyn Ebenezer yw Tra Bo Dai a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Dai Jones a Lyn Ebenezer |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 16/11/2016 |
Argaeledd | Allan o brint - Adargraffu |
ISBN | 9781784613372 |
Ail gyfrol hunangofiannol Dai Jones Llanilar, yn dilyn cyhoeddi "Fi Dai Sy' 'Ma". Mae'r gyfrol hon yn dilyn hynt a helynt ei yrfa dros yr ugain mlynedd diwethaf, fel ffermwr, cyflwynydd a darlledwr. Cydysgrifenwyd gyda'i gyfaill mawr, Lyn Ebenezer. 70 llun lliw a du-a-gwyn.
Adolygiad y wefan 'Gwales' golygu
Yn ôl Gwyn Griffiths 'Mae'r gyfrol yn werthfawrogiad o'r hen Gymru wledig, Gymraeg ei hiaith. Fe wêl golled yr ysgolion bach, ac yn ddiamau bu cau ysgolion cynradd yn fodd i symud trwch y boblogaeth ifanc o'r pentrefi bach yn ddigon clou.
Mae'n canmol y cobiau a'r merlod Cymreig, a'r hen fuwch ddu Gymreig.
Mae yma lu o gymeriadau, a Dai yn eu brolio a'u canmol gydag afiaith. Wedi'r cyfan, dyn pobol yw Dai, dyn a gafodd flas ar gyflwyno'r bobol hynny i ni ar deledu dros nifer o flynyddoedd bellach. Cydiodd yn y cyfrwng hwnnw a'i anwesu a'i ddefnyddio i ddod â ni i adnabod ein gilydd. Daeth â chyfle iddo grwydro'r byd yng nghwmni corau ac i weld dulliau o amaethu mewn gwledydd eraill.
Mae yma farn, atgofion, hanes, ond uwchlaw popeth mae yma frwdfrydedd a llawenydd. Pleser pur a darlun o fyd amaethu ar ei orau – mwynhewch.
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017