Traddodiadaeth (athroniaeth)
Ffurf ar athroniaeth dragwyddol yw Traddodiadaeth sydd yn gweld crefyddau'r byd i gyd yn tarddu o'r un traddodiad cychwynnol. Yn ôl Traddodiadwyr, mae'n bosib i ganfod agweddau o'r grefydd graidd hon (y Traddodiad) yn y sawl ffydd a thraddodiad ysbrydol sydd yn olrhain yn ôl i'r henfyd. Fel mudiad athronyddol cafodd ei hebrwng gan René Guénon yn y 1920au,[1] ac yn ddiweddarach datblygwyd syniadaeth wleidyddol y Traddodiad gan Julius Evola. Mae athronwyr yr ysgol Draddodiadaidd fel rheol yn credu mewn tynghediaeth ac hierarchaeth naturiol, yn groes i fodernedd, ac yn ymdrechu i ddychwelyd at wirionedd metaffisegol y Traddodiad. Cysylltir Traddodiadaeth yn aml ag esoteriaeth a gwleidyddiaeth yr adain dde eithafol.
Enghraifft o'r canlynol | mudiad athronyddol, gweithredu cymdeithasol |
---|
Yn ôl Guénon, y ffordd orau i archwilio'r Traddodiad yw ymlynu at un ffydd fyw, ac at y diben hwnnw fe drodd yn Fwslim Swffi. Bu rhai o'i ddilynwyr yn canlyn syncretiaeth grefyddol yn hytrach nag un grefydd benodol, yn aml drwy dynnu ar gyfriniaeth o sawl diwylliant. Mae nifer o Draddodiadwyr yn canolbwyntio ar amldduwiaeth Indo-Ewropeaidd fel crefydd gyntefig eu cyndeidiau, ac felly yn troi at Hindŵaeth. Sonir yn aml am gysyniadau Hindŵaidd gan Draddodiadwyr megis hierarchaeth y drefn gast a chylch y pedair oes. Mae eraill yn astudio traddodiadau esoteraidd y Gorllewin, megis dysgeidiaeth y Seiri Rhyddion, mewn ymgais i ganfod gwirionedd y Traddodiad. Mae ysgolheigion gan gynnwys Mircea Eliade wedi defnyddio dulliau gwyddor cymharu crefyddau ac hanesyddiaeth er mwyn astudio oes foreol y Traddodiad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kalin, Ibrahim (2015), "Guénon, Rene (1886-1951)", in Leaman, Oliver (yn en), The Biographical Encyclopedia of Islamic Philosophy, Bloomsbury Publishing
Darllen pellach
golygu- Mark Sedgwick, Against the Modern World: Traditionalism and the Secret Intellectual History of the Twentieth Century (Rhydychen: Oxford University Press, 2004).