Tynghediaeth
Athroniaeth neu gredo sydd yn tybio pob digwyddiad yn rhagderfynedig ac anochel yw tynghediaeth.[1] Mewn ystyr lac, gall hefyd gyfeirio at agwedd gyffredin sydd yn ymostyngol tuag at ddigwyddiadau, meddylfryd a welir yn deillio'n naturiol o'r athroniaeth hon.
Enghraifft o'r canlynol | philosophical theory |
---|
Gellir olrhain y fydolwg dynghedaidd yn ôl i grefyddau amldduwiol yr Henfyd, gan gynnwys personoliadau'r Tynghedau ym mytholeg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Cafwyd bodau tebyg, y nornir, ym mytholeg y Llychlynwyr.[2]
Tynghediaeth resymegol
golyguSeilir tynghediaeth resymegol ar ddadleuon rhesymeg, a dybir natur anochel rhai digwyddiadau oherwydd deddfau natur neu reswm.
Tynghediaeth ddiwinyddol
golyguFfurf grefyddol ar dynghediaeth yw tynghediaeth ddiwinyddol, sy'n tybio duw neu oruchaf rym tebyg yn gyfrifol am ragdynghedu pob digwyddiad yn y bydysawd, gan gynnwys gweithredoedd dynol, yn ôl ei gynllun dwyfol. Esiampl o athrawiaeth ddiwinyddol dynghedaidd yw rhagarfaeth, er enghraifft yng Nghalfiniaeth, sy'n honni i Dduw ragordeinio popeth, gan gynnwys iachawdwriaeth yr etholedigion, ac felly mae tynged yr enaid—paradwys neu uffern—wedi ei phenderfynu cyn i'r unigolyn gael ei eni hyd yn oed.
Tynghediaeth benderfyniadol
golyguMae tynghediaeth benderfyniadol yn gysylltiedig â phenderfyniaeth, sef yr athroniaeth a honnir achosiaeth o ganlyniad i ddigwyddiadau blaenorol a deddfau naturiol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ tynghediaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Awst 2023.
- ↑ (Saesneg) Fatalism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Awst 2023.