Deddf Llywodraeth Cymru 2006
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn Ddeddf Senedd y Deyrnas Unedig a ddiwygiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan alluogi rhoi mwy o bŵer i'r Cynulliad yn haws. Crea'r Ddeddf system lywodraethol sydd ar wahan ac yn atebol i'r ddeddfwriaeth.
Enghraifft o'r canlynol | Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2006 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Mae gan y Ddeddf y darpariaethau canlynol:
- creu corff gweithredol - Llywodraeth Cymru - sydd ar wahan i'r corff deddfwriaethol, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi newid o fod yn weithgor y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn gorff penodol.
- yn gwahardd ymgeiswyr rhag ceisio mewn etholaethau a bod ar restr rhanbarthol
- yn darparu modd i'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol i ddosrannu pŵer o'r Senedd i'r Cynulliad, a rydd pŵerau i'r Cynulliad i greu "Mesurau (Cyfreithiau Cymreig). Disgrifia Atodlen 5 y meysydd lle mae gan y Cynulliad pŵer i greu mesurau
- yn darparu refferendwm am fwy o bŵerau deddfwriaethol, a adwaenir fel "Deddfau'r Cynulliad"
- creu sêl Cymreig a Gwarchodwr y Sêl Cymreig (Prif Weinidog Cymru)
- creu Cronfa Gyfunol Cymru
- creu swyddi Cwnsler Cyffredinol fel aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i prif gynghorydd cyfreithiol
- rhoi dyletswyddau newydd i'r Frenhines drwy apwyntio gweinidogion Cymreig a rhoi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau'r Cynulliad.
Derbyniodd y mesur Gydsyniad Brenhinol ar 25 Gorffennaf 2006.
Atodlen 5 y Ddeddf
golyguDisgrifia Atodlen 5 y Ddeddf yr 20 "Maes" a "Mater" lle mae gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru bŵerau deddfwriaethol e.e. y gallu i basio Mesurau'r Cynulliad. Mae "Maes" yn bwnc eang e.e. addysg ac hyfforddiant; yr amgylchedd; iechyd a gwasanaethau iechyd; priffyrdd a thrafnidiaeth; tai. Mae "Mater" yn ardal polisi mwy penodol o fewn Maes. Gall y cynulliad gael mwy o bŵerau deddfwriaethol drwy ddiwygio Atodlen 5.
Gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd: naill ai o ganlyniad i gymalau a gynhwysir mewn deddfwriaethau a basiwyd gan Ddeddf Seneddol yn San Steffan, neu drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a roddir gan y Senedd mewn ymateb i gais wrth y Cynulliad Cenedlaethol ei hun. (Gall y Llwyodraeth Gymreig, aelodau unigol neu Bwyllgorau'r Cynulliad gynnog Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol; ond rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn y caiff ei brosesu). Canlyniad y dday ddull yw diwygio'r 20 "Maes" drwy fewnosod "Materion" penodol i mewn i bob "Maes". Rhydd hyn bŵer i'r Cynulliad i basio deddfwriaeth ar y Materion hynny.
Diweddarir Atodlen 5 yn rheolaidd o ganlyniad i'r ddau broses hyn. Ceir copi wedi'i ddiweddaru ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.[1]
Meysydd Atodlen 5
golygu- Maes 1: amaethyddiaeth, pysgota, fforestydd a datblygiad cefn gwlad
- Maes 2: cofebau hynafol ac adeiladau hanesyddol
- Maes 3: diwylliant
- Maes 4: datblygiad economaidd
- Maes 5: addysg ac hyfforddiant
- Maes 6: yr amgylchedd
- Maes 7: gwasanaethau tân ac achub a hyrwyddo diogelwch tân
- Maes 8: bwyd
- Maes 9: iechyd a gwasanaethau iechyd
- Maes 10: priffyrdd a thrafnidiaeth
- Maes 11: tai
- Maes 12: llywodraeth leol
- Maes 13: Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Maes 14: gweinyddiaeth gymdeithasol
- Maes 15: lle cymdeithasol
- Maes 16: chwaraeon ac hamdden
- Maes 17: twristiaeth
- Maes 18: cynllunio tref a gwlad
- Maes 19: amddiffynfeydd dŵr a llifogydd
- Maes 20: yr iaith Gymraeg
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Deddf Llywodraeth Cymru 2006[dolen farw]. Gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd 09-08-2009
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Deddf 2006 Llywodraeth Cymru[dolen farw]
- (Saesneg) Deddf Llywodraeth Cymru 2006
- (Saesneg) Prawf llawn o Atodlen 5 fel y'i gweithredir
- Diwygiad o Atodlen 5 fel ag y mae ar hyn o bryd Archifwyd 2008-07-09 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Nodiadau Tracio Pŵerau'r Cynulliad Archifwyd 2008-11-23 yn y Peiriant Wayback
- Nodiadau Tracio Cynulliad Cenedlaethol Cymru Archifwyd 2009-02-11 yn y Peiriant Wayback