Trallwysiad gwaed
Y broses o drosglwyddo gwaed neu ddeunyddiau wedi eu selio ar waed o un person i system gylchredol person arall yw trallwysiad gwaed. Gall drallwysiadau gwaed achub bywydau, megis pan mae claf wedi derbyn trawma a cholli llawer o waed, neu er mwyn amnewid gwaed sydd wedi cael ei golli yn ystod llawdriniaeth. Gellir hefyd ddefnyddio trallwysiadau gwaed er mwyn trin anaemia drwg neu thrombocytopenia a achosir gan haint gwaed. Gall pobl sy'n dioddef o haemoffilia neu haint cell-cryman orfod derbyn trallwysiadau gwaed.
Roedd y trallwysiadau cynnar yn defnyddio gwaed cyfan, ond mae arferion meddygaeth cyfoes yn aml ond yn defnyddio ychydig elfennau o'r gwaed ee celloedd coch yn unig.