Tramffordd Cyffordd Abermaw ac Arthog

lein 3 troedfedd o led rhwng Abermaw ac Arthog, Gwynedd

Aeth Tramffordd Cyffordd Abermaw ac Arthog o Arthog i orsaf reilffordd Cyffordd Abermaw. Roedd hi'n lein 3 troedfedd o led. Agorwyd y lein ym 1899, a chaewyd ym 1903.[1]

Tramffordd Cyffordd Abermaw ac Arthog
Mathtram system Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogolAwst 1899 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.711°N 4.009°W Edit this on Wikidata
Map
Cilgant Mawddach

Hanes golygu

Adeiladwyd y lein gan Solomon Andrews o Gaerdydd, i greu cyrchfan gwyliau yn Arthog, yn ddefnyddio tramfyrrd defnyddiwyd yn gynharach gan chwareli. Adeiladodd Andrews Cilgant Arthog, hefyd, yn rhan o'r cyrchfan arfaethedig. Cyrhaeddodd 2 gerbyd ym 1899[2] o Gaerdydd pan newidodd y tranffyrdd y ddinas o geffylau i drydan. Roedd gan Andrews sawl cwmni bysiau a thramffyrdd ledled Prydain.[3] Gweithredwyd y dramffordd pan oedd y tywydd yn braf, a dangoswyd baner pan oedd y tramffordd ar gael.[4][

Cyfeiriadau golygu

  1. The Golden Age of Tramways, cyhoeddwyd gan Taylor a Francis
  2. Gwefan grantonline
  3. Gwefan Mynwent Cathays
  4. Mawddach Crescent, Arthog, North Wales gan Bernard O'Connor