Solomon Andrews
Roedd Solomon Andrews (5 Ebrill 1835 - 9 Tachwedd 1908) yn ddyn busnes a oedd yn byw yng Nghaerdydd.
Solomon Andrews | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ebrill 1835 Trowbridge |
Bu farw | 9 Tachwedd 1908 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | person busnes |
Magwraeth
golyguCafodd ei eni yn Trowbridge, Wiltshire ar 5 Ebrill 1835, yn fab i John Andrews a Charlotte. Ef oedd yr ail blentyn allan o chwech; fe'i bedyddiwyd ar 5 Mehefin 1935 yn Eglwys Sant Iago, Trowbridge.[1]
Datblygiadau ymwelwyr
golyguDaeth o i Gaerdydd ym 1851. Roedd yn bobydd efo’i siop ei hun erbyn 1856 ac erbyn 1864 roedd ganddo sawl cab a cheffyl ar gyfer teithwyr, ac erbyn 1873 bysiau hefyd. Prynodd gweithdy yn 1872 er mwyn adeiladu ei gerbydau ei hun ac yn fuan roedd ganddo fysiau ar strydoedd Portsmouth, Plymouth, Belfast, Manceinion, Caerlŷr, Nottingham a Llundain, yn ogystal â Chaerdydd.[2][3][4]
Prynodd dir ac adeiladodd dai a siopau yng Nghaerdydd ac Abertawe. Datblygodd o Bwllheli fel cyrchfan gwyliau, gan greu promenâd, cwrs golff a Gwesty West End. Prynodd blasty Glyn-y-weddw yn Llanbedrog i fod yn arddangosfa gelf[5] ac adeiladodd Dramffordd Pwllheli a Llanbedrog.[6][7]
Ym 1894, prynodd sawl fferm a thir yn Arthog, gan gynnwys Tyddyn Sieffra a'i chwarel a'i thomenni sy'n segur erbyn hyn. Adeiladodd rwydwaith o dramffyrdd ym 1899 i gludo gwastraff y chwareli o'r tomenni er mwyn adeiladu morglawdd yn wynebu'r aber. Adeiladwyd 'Mawddach Crescent' yno yn ystod y tair i bedair blynedd dilynol, a hefyd Tramffordd Cyffordd Abermaw ac Arthog. Roedd wedi gobeithio y byddai hwn hefyd, ynghyd â'r Friog (Fairbourne), yn datblygu'n gyrchfan wyliau, ond nid felly y bu. Y Crescent oedd yr unig ran o'r datblygiad a gwblhawyd.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cofrestri'r Plwyf; Eglwys St. James, Trowbridge
- ↑ 2.0 2.1 Gwefan bbc
- ↑ Gwefan archifau cymru
- ↑ Gwefan amgueddfa bysiau Llundain
- ↑ Gwefan oriel.org.uk
- ↑ Gwefan BBC
- ↑ Carnarvon a Denbigh Herald, 13 Tachwedd 1908
- ↑ Gwefan heneb
- ↑ Carnarvon a Denbigh Herald, 13 Tachwedd 1908