Trawsylweddiad
Yn ôl dysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig, trawsylweddiad[1] yw trawsffurfiad llythrennol bara a gwin sagrafen y cymun yn waed a chorff go iawn yr Iesu. Dysg yr Eglwys fod hanfod, neu realiti, y bara yn cael ei drosi'n gorff Crist, a hanfod y gwin yn cael ei drosi'n waed Crist, er nad yw'r hyn sy'n ganfyddadwy i'r synhwyau, sef gwedd allanol y ddeupeth, yn newid.
Roedd gwadu dysgeidiaeth y trawsylweddiad yn un o brif egwyddorion arweinwyr y Diwygiad Protestannaidd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ trawsylweddiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.