Agor y brif ddewislen
Basgediad o rôls (neu rholiau) bara
Pobi bara mewn hen ffwrn yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant; Ionawr 1955.

Gwneir bara, sy'n fwyd poblogaidd iawn, o does wedi'i bobi. Mae toes yn cynnwys blawd a dŵr, ac yn aml halen, a burum i godi'r bara. Mae llawer o wahanol fathau o fara o lawer o wledydd gwahanol. Bwyteir bara ers cychwyn amaethyddiaeth, filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Gelwir y math arferol yn "dorth" – telpyn cymharol fawr – a cheir torthenni wedi'u gwneud o flawd mâl ac o flawd cyflawn. Ceir mathau llai hefyd, fel rholiau fel y Brioche a gall eu gwead (texture), eu blas, eu maint a'u cynnwys amrywio'n fawr. Ceir mathau hir hefyd, fel y Baguette o Ffrainc, sydd tua 65 centimetr (26 mod) o hyd. Cymysgir y blawd a'r dŵr yn does; defnyddir burum neu bowdr codi fel arfer i godi'r toes, er bod rhai mathau'n ddi-furum (bara croyw). Defnyddir bara croyw mewn seremoniau crefyddol fel y Cymun Cristnogol a cheir nifer o ymadroddion am fara yn y Beibl: "Nid ar fara'n unig y bydd byw dyn", neu "wrth chwys dy wyneb y bwytei dy fara". Mae nifer o dechnegau modern o wella'r bara ar gyfer ei werthu gan gynnwys ei roi dan bwysau eithriadol i greu'r swigod neu ychwanegu cemegolion i wella'r blas, ei wead, ei liw neu ei brisyrfio. Ychwanegir ffrwythau, cnau a saim ar adegau e.e. bara brith.

Defnyddir briwsion bara i wneud stwffin a gellir pobi tafellau o fara i wneud pwdin bara. Y dull amlaf o'i wyta yn y Gorllewin yw ar ffurf brechdanau, sef tafelli o fara, gydag jam, menyn, gaws neu enllyn arall rhwng y ddau damed o fara. O grasu'r bara, ceir tost. Sonir am grasu bara yn chwedl Llyn y Fan Fach: "Cras dy fara, nid hawdd fy nala".

Yn ffigyrol, caiff y gair ei ddefnyddio am fwyd, pryd o fwyd, cynhaliaeth, ffon cynhaliaeth neu fywoliaeth person.

Cynnwys

GeirdarddiadGolygu

Daw'r gair "bara" o'r Frythoneg "baragi" a'r Gelteg "baregi", ac fe'i ceir yn yr Hen Gernyweg a'r Llydaweg 'bara', Hen Wyddeleg: "bairgen". "Bara" hefyd yw'r gair lluosog.[1]

Mae'r cofnod Cymraeg cynharaf i'w gael yn:

  • 13g: Llyfr Iorwerth 64: "Sef mal e rennyr e punt honno: chue ugeynt e’r bara a thry ugeynt e'r llyn". Ac eto: "chue thorth arrugeynt o'r bara goreu".
  • 14g: Llyfr Iorwerth 69: "deudec torth o vara bychein (tenuibus panibus), a dwy torth o vara mawr peilleit".
  • 1346: Llyfr Iorwerth 22: "Paham y gwnneir y gorff ef or bara. Ae waet or gwin".

Mae'r gair "torth", ar y llaw arall, yn fenthyciad o'r Lladin, "torta", ac fe'i ceir mewn Cernyweg Canol 'torth' ac mewn Llydaweg Canol "torz" a Gwyddeleg Canol "tort".

Mathau o faraGolygu

  • Bara Mate
Pan oeddwn yn blentyn yn Llwyncelyn, Brynberian roedd fy mam yn pobi Bara Mate. Roedd yn talu dyn i dorri'r mate (y donnen o fawn ar wyneb y gors) ar y mynydd, yna fyddai yn eu codi yn sawl crit i'w sychu. Ar ôl iddynt sychu fe fyddent yn cael eu cludo i'r ydlan a'u gvneud yn das a'u toi â brwyn. Pan fyddai fy mam yn mynd i bobi byddai yn cymryd pump neu chwe maten o'r das a'u rhoi at ei gilydd a'u cynnau. Ar ôl iddynt gochi byddai yn eu hagor er mwyn dodi'r ffwrn yn y canol, yna rhoi'r dorth yn y ffwrn a'i chau ā'r clawr a dodi'r mate nol drosti. Dyna'r bara gorau brofais i erioed. Roedd fy mam yn pobi tarten yr un modd.

Tybed beth fyddai gair y gogledd am mate (matiau), sef y donnen o fawn ar wyneb y gors.[2]

  • Bara cletsh neu bara ropin

Wrth son am y flwyddyn 1866 yng nghyd destun trafod y gair Saesneg tafodiaethol (?) reemy soniodd W Meredith Morris fel hyn:

Agglutinative: a term applied to bread made of heated or diseased wheat. The bread is stringy and gluey, and of a somewhat acid-sweet taste. In the North Pembs Demetian dialect it is called bara cletsh and in the Gwentian dialect of Glamorgan bara ropin. The year 1866 is known in Pembs as “the year of the Reemy bread” and in the north as “blwyddyn y bara cletsh” (cf. ryman = to stretch)[3]

Roedd 1866 yn flwyddyn ansefydlog iawn ym Mhrydain yn gyffredinol gydag eira mawr yn Ionawr a gwanwyn oer a sych. Roedd Mehefin a Gorffennaf yn gynnes gyda therfysg a’r hydref yn gynnes a gwlyb.[4]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. geiriadur.ac.uk; Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC) adalwyd 6 Mawrth 2016
  2. Mrs Irene Davies, Maenhir, Blaenffos (Papur Bro Clebran 1990)
  3. W Meredith Morris, casgliad o Goelion Gwerin De Sir Benfro, mewn llawysgrif yng nghasgliadau Sain Ffagan
  4. Kington, J. (2010) Climate and Weather (Collins)
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am bara
yn Wiciadur.