Tredegarville
Tredegarville oedd yr enw a roddwyd i ardal dosbarth uwch o strydoedd a filas yng Nghaerdydd, a ddatblygwyd yn ystod ail hanner y 19g. Mae'r ardal nawr yn rhan o Y Rhath.
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4852°N 3.1681°W |
Hanes a disgrifiad
golyguRoedd Tredegarville yn cynnwys strydoedd paralel ar ochr ddeheuol Heol y Ddinas, yn cynnwys Y Parêd, The Walk a Richmond Crescent, wedi ei groesi gan East Grove a West Grove.[1] Fe'u dyluniwyd a'i gosod ar gyfer Ystad Tredegar cyfoethog gan eu penseiri, W.G. & E Habershon[1] (a ddaeth yn Habershon & Fawckner ar ôl i'r brodyr Habershon fynd ei ffordd eu hun). Cychwynwyd y datblygiad yn 1857. Creodd Habershon & Fawckner Richmond Crescent tua 1888.[1]
Mae William Gilbee Habershon yn cael cydnabyddiaeth am Eglwys y Bedyddwyr Tredegarville (1861–63) ar Y Parêd, wedi ei ariannu gan y meistri glo lleol, teulu y Cory[2] ar gost o £3600 (daeth y Corys yn aelodau o'r gynulleidfa).[3] Dyluniodd Habershon & Fawckner blasty ar Richmond Crescent hefyd, o'r enw 'The Grove', ar gyfer perchennog siop fawr Howells yng Nghaerdydd, James Howell, a'i deulu. Prynwyd yn ddiweddarach gan y ddinas (1913) a daeth yn 'Y Plasty' (The Mansion House') a chartref maer y ddinas.[4]
Cwblhawyd Eglwys Anglicanaidd St James the Great ar Heol Casnewydd yn 1894 on Newport Road i wasanaethu Tredegarville a'r ardal leol.[5]
Ffynonellau
golygu- Newman, John (1995), The Buildings of Wales: Glamorgan, Penguin Books, ISBN 0-14-071056-6, http://books.google.com.ar/books?id=DpUMspCtpNIC&pg=PA692&lpg=PA692&dq=Habershon+%26+Fawckner&source=bl&ots=LP4XSBDeO_&sig=tVzCmJXuNGSXehujhI7m4pQLnWM&hl=en&sa=X&ei=AkxeVN_TGJLZ7QaEooDACw&ved=0CC0Q6AEwAw#v=onepage&q=Habershon%20%26%20Fawckner&f=false, adalwyd 2014-11-08
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Newman, The Buildings of Wales: Glamorgan, p. 309
- ↑ Newman, The Buildings of Wales: Glamorgan, p. 303-4
- ↑ "Tredegarville Baptist Church, Cardiff". Stained Glass in Wales (University of Wales). Cyrchwyd 2014-11-10.
- ↑ Mortimer, Dic (2014), "10 - Roath (including Cyncoed and Lakeside)" (eBook), Cardiff: The Biography, Amberley Publishing, ISBN 978-1-4456-4251-2, http://books.google.com.ar/books?id=_pkFBQAAQBAJ&pg=PT204&dq=cardiff+architects&hl=en&sa=X&ei=pGJdVOb4L66M7AbUrYGYCQ&ved=0CFEQuwUwBw#v=onepage&q=habershon&f=false, adalwyd 2014-11-09
- ↑ "Parish History". The City Parish of St John the Baptist Cardiff. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-31. Cyrchwyd 2014-12-23.