Y Rhath

ardal yng Nghaerdydd

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw'r Rhath (Saesneg: Roath). Lleolir i'r gogledd-ddwyrain o ganol y dref, ac yn ymestyn o Adamsdown i'r de at Barc y Rhath i'r gogledd. Mae'n cynnwys ward etholaethol Plasnewydd. Credir y daw'r enw o'r Gwyddeleg am gaer, sef ráth, neu gall darddu o enw anheddiad rhufeinig Caerdydd, sef Ratostabius.

y Rhath
Mathdosbarth, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,278 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4911°N 3.1606°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000856 Edit this on Wikidata
Map
Parc y Rhath

Prif strydoedd siop y Rhath yw Albany Road, City Road, a Wellfield Road. Mae'n nodweddiadol am y teimlad rhanol-wledig, gyda strydoedd o dai o Oes Fictoria a choed wedi eu plannu ar hyd nifer o'r strydoedd. Mae poblogaeth yr ardal yn dod o gefndir eang, ac yn gymysgedd o fyfyrwyr (gan ei fod yn agos i gampysiau'r Brifysgol), poblogaeth sylweddol o bobl o dras lleiafrif ethnig a llawer o bobl ifanc proffesiynol. Mae cymysgedd o'r tlawd a'r cyfoethog yn yr ardal, ond mae'r cyfoeth wedi ei leoli yng ngogledd y gymuned yn bennaf, ar gyrion Parc y Rhath a'r meysydd chwarae.

Lleolir Tŷ'r Cymry, canolfan Gymraeg yn y ddinas a agorwyd yn 1936, yn 11, Gordon Rd, yn y Rhâth.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Rhath (pob oed) (18,166)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Rhath) (1,724)
  
9.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Rhath) (8201)
  
45.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Rhath) (2,287)
  
30.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfleusterau

golygu

Pobl y Rhath

golygu
  • Mary Sophia Allen, (1878 - 1964) swffragét, ymgyrchydd dros gael menywod yn yr heddlu a Ffasgydd

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]