Tref Wicipedia
Tref Wicipedia ydy tref sy'n cynnig cysylltiad technegol uniongyrchol i erthyglau Wicipedia. Trefynwy, Sir Fynwy oedd y dref gyntaf i dderbyn yr anrhydedd honno, a hynny yn 2012, fel rhan o Pedia Trefynwy sef arbrawf arloesol yn y defnydd o codau QR ledled y dref, a thechnolegau cyffelyb. Dadorchuddiwyd yr arwydd fel rhan o ddathliadau'r dref a'r bartneriaeth agos gyda'r Wicipedia Saesneg a'r Wicipedia Cymraeg a gyfranodd bron i 50 o erthyglau ar y dref.