Llwyth Belgaidd yng ngogledd-ddwyrain Gâl oedd y Treveri, weithiau Treviri. Roedd eu tiriogaethau o gwmpas rhan isaf dyffryn Afon Moselle, yn yr ardal sy'n awr yn Lwcsembwrg, de-ddwyrain Gwlad Belg a rhan o orllewin yr Almaen. Mae rhywfaint o ansicrwydd a ddylent gael eu hystyried yn llwyth Celtaidd ynteu Almaenig, ond mae Sierôm yn y 4g yn dweud fod eu hiaith yn debyg i eiddo'r Galatiaid, ac felly, gellir casglu, yn iaith Gelteg.

Llwythau Celtaidd Gâl yn y ganrif 1af CC

Yng ngyfnod Iŵl Cesar, roedd eu tiriogaethau yn ymestyn hyd at Afon Rhein, i'r gogledd o diroedd y Triboci. Prifddinas eu civitas yn y cyfnod Rhufeinig oedd Colonia Augusta Treverorum (Trier yn yr Almaen heddiw).

Rhoddasant gymorth i Iŵl Cesar yn ei ymgyrchoedd yng Ngâl ar y cychwyn, dan ei harweinydd Cingetorix, ond yn 54 CC dan Indutiomarus ymunasant a gwrthryfel yr Eburones dan Ambiorix. Gorchfygwyd hwy gan fyddin Rufeinig dan Titus Labienus, a lladdwyd Indutiomarus. Yn 70 OC, ymunodd y Treveri dan Julius Classicus a Julius Tutor â Gwrthryfel y Batafiaid.