Triagl trwchus, gludiog a thywyll sydd â blas chwerw yn debyg i licris yw triagl du. Defnyddir wrth bobi teisenni a phwdinau megis cacen goch, teisen ffrwyth dywyll a tharten driog, i wneud melysfwydydd megis taffi triog, ac i felysu rhai seigiau sawrus megis ffa pob Boston. Yn wahanol i driagl melyn, ni ddefnyddir yn aml fel surop bwrdd, hynny yw i arllwys dros fwyd.[1]

Parkin, teisen o Ogledd Lloegr sy'n cynnwys triagl du.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 411.