Triawd llinynnol
Ensemble cerddorol sy'n cynnwys tri chwaraewr llinynnol – chwaraewr ffidil, chwaraewr fiola a sielydd – yw triawd llinynnol. Defnyddir yr enw hefyd i gyfeirio at gyfansoddiad a ysgrifennwyd i'w berfformio gan grŵp o'r fath; mae cyfansoddwyr cerddoriaeth glasurol, o ganol y 18g ymlaen, wedi ysgrifennu triawdau llinynnol. Fodd bynnag, mae cryn dipyn yn llai o gyfansoddiadau wedi'u hysgrifennu ar gyfer y triawd llinyn na'r pedwarawd llinynnol.