Peiriant i droi'r gwlân (neu'r "cnu") yn edafedd yw troell neu dröell. Gelwir y gwaith o weithio gyda throell yn nyddu.

Merch mewn gwisg Gymreig draddodiadol o flaen ei throell. Ffotograff gan John Thomas, 1885.

Ceir llawer o hen benillion sy'n cyfeirio at y droell. Dyma enghraifft:

Gwych gan gerlyn yn ei wely
Glywed sŵn y droell yn nyddu;
Gwych gen innau (dyn a'm helpo)
Glywed sŵn y tannau'n tiwnio.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf a chrefft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.