Gwlana
Yr arfer o gasglu neu gardota gwlân o'r caeau a'r ffriddoedd agored yw gwlana.
Roedd yn arferiad yn yr oes a fu yng Nghymru i bobl, yn enwedig merched a gwragedd tlodion, fynd allan i gardota gwlân amser cneifio defaid, fel rheol gyda chaniatâd y ffermwr. Wrth hel eu blewyn yn y caeau neu ar y mynydd agored mae defaid yn tueddu i adael darnau o wlân o'u cnu ar eu holau, yn hongian ar eithin a brysgwydd er enghraifft. Arferid hel y darnau gwlân hyn, a'u golchi a'u cardio er mwyn cael cyflenwad rhad ac am ddim o wlân at ddilledu'r teulu dros y gaeaf.
Roedd yn hen arfer yng Nghymru. Ceir y cyfeiriad cyntaf at wlana mewn cerdd gan Iolo Goch ('Dychan i Hersdin Hogl', diwedd y 14g[1]). Ceir hen ddihareb yn Dictionarum Duplex John Davies:
- Nid hawdd gwlana ar yr afr.[2]
Cofnodir enghreifftiau o wlana yn ardal Tregaron a Llanddewi Brefi, canolbarth Ceredigion, yn y 19g. Yn gynnar yn yr haf, âi'r dynion a'r merched gyda'i gilydd i'r tir comin ac ar hyd y caeau i wlana. Enwir carreg fawr yn yr ardal yn 'Garreg bara' chaws' am eu bod yn arfer eistedd yno i fwyta eu tamaid. Gadawent rhai o'r sachau a ddefnyddid i gadw'r gwlân ynddynt dan y garreg honno ganol dydd a'u casgu eto ar y ffordd adre.[3]
Mewn sawl ardal wledig byddai'r merched o bob oed yn gwau hosanau gwlân hirnosau'r gaeaf. Pe bai rhai ar ôl byddent yn eu gwerthu yn y ffeiriau pan ddeuai'r gwanwyn i gael ychydig ceiniogau ychwanegol.
Ar lafar ym Morgannwg mae gwlana yn air am bensynnu neu synfyfyrio ("day-dreaming").
Cyfeiriadau
golygu- ↑ D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), tud. 161.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru. tud. 1681, d.g. gwlana.
- ↑ Evan Jones, Cerdded Hen Ffeiriau (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1972), tud. 34.