Trosedd yng Nghymru
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Cyfraith Lloegr yw cyfundrefn gyfreithiol Cymru (gweler Cymru a Lloegr), ac fe gwasanaethir Cymru gan bedwar heddlu rhanbarthol: Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru, a Heddlu De Cymru.
Mae'r tabl isod yn dangos ystadegau ar gyfer y troseddau a gofnodwyd yn ardaloedd heddlu Cymru, Cymru i gyd, a Chymru a Lloegr o 2003 i 2007:[1]
Ardal | Nifer y troseddau 2003/04 | Nifer y troseddau 2004/05 | Nifer y troseddau 2005/06 | Nifer y troseddau 2006/07 | Newid 03/04 i 06/07 (%) | Newid 05/06 i 06/07 (%) |
---|---|---|---|---|---|---|
Dyfed-Powys | 16,612 | 18,189 | 16,400 | 16,578 | 0 | 1 |
Gwent | 36,746 | 35,711 | 33,794 | 33,140 | -10 | -2 |
Gogledd Cymru | 38,332 | 33,440 | 30,363 | 31,838 | -17 | 5 |
De Cymru | 86,211 | 78,220 | 80,389 | 78,749 | -9 | -2 |
Cymru | 177,901 | 165,560 | 160,946 | 160,305 | -10 | 0 |
Cymru a Lloegr | 3,612,887 | 3,356,075 | 3,303,344 | 3,243,372 | -10 | -2 |
Mae lefelau pryder am drosedd yng Nghymru yn debyg i lefelau pryder dros Gymru a Lloegr. Yn 2006/07, dywedodd 11% o ymatebwyr i'r Arolwg Troseddau Prydeinig (BCS) yng Nghymru eu bod yn hynod o bryderus am fyrgleriaeth (i gymharu â 13% dros Gymru a Lloegr); dywedodd 13% eu bod yn hynod o bryderus am droseddau ceir, sef rhywun yn dwyn car neu rhywun yn dwyn pethau o gar (yr un ganran â Chymru a Lloegr); ac roedd gan 12% bryder uchel am droseddau treisgar, yn cynnwys mygio, trais rhywiol, ymosodiad corfforol gan ddieithryn ac ymosodiad oherwydd hil (llai na'r ffigur o 17% ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd).[1]
Darganfu y BCS bod gan 48% o bobl yng Nghymru hyder yn eu heddlu lleol (llai na'r cyfartaledd o 51% ar gyfer Cymru a Lloegr), a theimlai 41% o ymatebwyr bod y system cyfiawnder troseddol yn effeithiol wrth ddwyn drwgweithredwyr i gyfrif (yr un ffigur â Chymru a Lloegr). Teimlai 17% o ymatebwyr yng Nghymru bod lefel uchel amlwg o ymddygiad gwrth-gymdeithasol (i gymharu â 18% dros Gymru a Lloegr), a theimlai 31% bod lefel uchel amlwg o ddefnyddio neu ddelio â chyffuriau yn eu hardal (i gymharu â 28% ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Sarah Kirwan, Charlotte Wood ac Alison Patterson. Trosedd yng Nghymru a Lloegr 2006/07: Cymru. Y Swyddfa Gartref. Adalwyd ar 28 Mai, 2008.