Trychineb Hillsborough
Gwasgfa o bobl mewn lle cyfyng oedd trychineb Hillsborough a ddigwyddodd yn ystod gêm pêl-droed gynderfynol y Cwpan FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill 1989 yn Stadiwm Hillsborough, Sheffield, Lloegr. Bu farw 96 o bobl, 94 ohonynt ar y diwrnod a 2 arall yn yr ysbyty,[1] ac anafwyd 766, pob un ohonynt yn gefnogwr Lerpwl. Hillsborough oedd y trychineb gwaethaf yn hanes Prydain i ddigwydd mewn stadiwm, ac un o'r trychinebau pêl-droed gwaethaf erioed.[2]
Enghraifft o'r canlynol | stampede, trychineb |
---|---|
Dyddiad | 15 Ebrill 1989 |
Lladdwyd | 97 |
Achos | Crowd collapses and crushes |
Lleoliad | Hillsborough Stadium |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cytunwyd i gynnal y gêm rhwng Lerpwl a Nottingham Forest mewn stadiwm "niwtral", a dewiswyd Hillsborough gan y Gymdeithas Bêl-droed. Penderfynodd Heddlu De Swydd Efrog i roi cefnogwyr Nottingham Forest yn Spion Kop End a chefnogwyr Lerpwl yn Leppings Lane, er yr oedd Spion Kop End yn fwy o faint ac yr oedd disgwyl i fwy o gefnogwyr Lerpwl wylio'r gêm na chefnogwyr Nottingham Forest. Cyn dechrau'r gêm roedd yn amlwg bod gormod o gefnogwyr Lerpwl yn mynd trwy'r giatiau tro. Agorodd yr heddlu giât fawr i'w galluogi i fynd trwy dwnel i gyrraedd dau loc. Achosodd y mewnlifiad i'r llociau wasgi'r bobl, a dringodd rhai ohonynt dros ffensiau i ddianc. Ychydig wedi dechrau'r gêm, syrthiodd cefnogwyr Lerpwl ar ben ei gilydd yn erbyn gwahanfur rhwng y llociau a'r maes chwarae, a daeth y gêm i ben ar ôl chwe munud. Tynodd gwylwyr hysbysfyrddau i lawr er mwyn cario'r clwyfiedig. Dim ond 14 o'r 96 a fu farw a ddygwyd i ysbyty. Yn fuan ar ôl y digwyddiad, bu cyhuddiadau taw trais a hwliganiaeth gan gefnogwyr Lerpwl oedd yn gyfrifol am y drychineb, yn ôl adroddiad drwg-enwog a gyhoeddwyd ar dudalen flaen The Sun dan y pennawd "THE TRUTH".[3] Yn ôl yr ymchwiliad swyddogol i'r trychineb, Adroddiad Taylor (1990), "y prif reswm dros y drychineb oedd methiant rheoli gan yr heddlu".[4] O ganlyniad i gasgliadau'r adroddiad, cafodd terasau sefyll eu tynnu o stadia mawr ar draws Lloegr, Cymru a'r Alban.[5]
Ugain mlynedd wedi'r trychineb, galwodd yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Andy Burnham ar yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a chyrff eraill i gyhoeddi'r holl ddogfennau sy'n berthnasol i'r drychineb.[6] Sefydlwyd Panel Annibynnol Hillsborough gyda James Jones, Esgob Lerpwl, yn gadeirydd, a ddatgelodd yn 2012 nad oedd yr un o gefnogwyr Lerpwl yn gyfrifol am y marwolaethau, ac i'r awdurdodau geisio cuddio'r hyn ddigwyddodd, gan gynnwys yr heddlu a newidiodd 164 o ddatganiadau oedd yn ymwneud â'r trychineb.[7] Ymysg yr ymateb i adroddiad y panel oedd ymddiheuriadau gan y Prif Weinidog David Cameron, Prif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog David Crompton, a Kelvin Mackenzie, golygydd The Sun ar adeg y trychineb.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "1989: Football fans crushed at Hillsborough". BBC News. 15 April 1989. Cyrchwyd 2 April 2010.
- ↑ Eason, Kevin (13 April 2009). "Hillsborough: the disaster that changed football". The Times. UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-15. Cyrchwyd 1 October 2009.
- ↑ Gibson, Owen; Carter, Helen (18 April 2009). "Hillsborough: 20 years on, Liverpool has still not forgiven the newspaper it calls 'The Scum'". The Guardian. London. Cyrchwyd 26 November 2011.
- ↑ Lord Taylor's interim report on the Hillsborough stadium disaster (Zipped PDF). para. 278.[dolen farw]
- ↑ "Footballnetwork.org/ synopsis of Taylor Report". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2012-09-12.
- ↑ Conn, David (17 April 2009). "Football: David Conn on Hillsborough". The Guardian. Retrieved 12 September 2012.
- ↑ Owen Gibson, David Conn and Haroon Siddique (12 September 2012). "Hillsborough disaster: David Cameron apologises for 'double injustice'". The Guardian. Retrieved 12 September 2012.
- ↑ "Hillsborough files released: As it happened". BBC News. Retrieved 12 September 2012.