Stadiwm pêl-droed yw Anfield, a leolir yn yr ardal o'r un enw yn Lerpwl, Lloegr. Mae'r stadiwm yn seddi i gyd ers addasu'r Spion Kop yn 1994. Adeiladwyd y stadiwm ym 1884 a dyma oedd cartref gwreiddiol tîm pêl-droed Everton. Chwaraeodd y clwb ar y safle tan 1892, pan adawsant ar ôl anghydfod ynglŷn â'r rhent. Ers hynny, ma'r stadiwm wedi bod yn gartref i dîm pêl-droed Lerpwl, a ffurfiwyd o ganlyniad i Everton yn gadael Anfield.

Anfield
Mathstadiwm pêl-droed Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1885 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1884 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLerpwl Edit this on Wikidata
SirAnfield, Dinas Lerpwl Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.4308°N 2.9608°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganLiverpool F.C. Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethFenway Sports Group Edit this on Wikidata

Mae'r stadiwm yn cyrraedd lefel 4-seren Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeaidd, ac mae nifer o gêmau rhyngwladol ar lefel uchel wedi eu cynnal yno, gan gynnwys gêmau Lloegr. Defnyddiwyd y safle hefyd yn ystod Ewro 96 ac fe chwaraeodd Cymru rhai o'u gemau cartref yno ar ddiwedd y 1990au tra roedd Stadiwm y Mileniwm yn cael ei gwblhau.

Yn bellach yn ôl yn hanes y stadiwm, defnyddiwyd Anfield ar gyfer gweithgareddau eraill, megis paffio a gêmau tenis.


Panorama Anfield, 2012, o'r Anfield Road Stand; chwith: Centenary Stand, canol: Kop Stand; de: Main Stand