Tudwen
santes Gymreig o'r 5g
Santes Gymreig oedd Tudwen (bl. 5g). Yn ôl yr achau traddodiadol roedd hi'n un o blant niferus Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog.[1] Ei gwylmabsant yw naill ai 21 neu 27 o Hydref.[2]
Tudwen | |
---|---|
Ganwyd | 5 g ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol ![]() |
Dydd gŵyl | 21 Hydref, 27 Hydref ![]() |
Tad | Brychan ![]() |

Nawddsant
golyguYchydig a wyddom amdani ar wahân i'w lle yn yr achau fel un o ferched niferus Brychan a'r ffaith mai hi yw sefydlydd a nawddsant Eglwys y Santes Tudwen yn Llandudwen (cymuned Buan) yn Llŷn, Gwynedd.
Ffynnon
golyguRoedd Ffynnon Dudwen mewn cae ger yr eglwys ond nid yw yno erbyn heddiw. Fe'i cysegrwyd i'r Santes Tudwen. Defnyddid dŵr y ffynnon i fedyddio plant y plwyf. Roedd yn enwedig o rinweddol at iachau epilepsi, crudcymalau, diffyg teimlad yn y corff, a llygaid blinedig. Cofnodir hefyd fod priodasau dirgel yn cael eu cysegru ger y ffynnon.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
- ↑ Lives of the Saints; adalwyd Rhagfyr 2017.
- ↑ Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954).