Llandudwen
Plwyf eglwysig yng nghwr gorllewinol Llŷn yw Llandudwen. Mae'n gorwedd i'r gogledd o fryn Carn Fadryn, i'r de o Nefyn. Heddiw mae'n rhan o gymuned Buan.
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.91°N 4.55°W |
Yn yr Oesoedd Canol bu plwyf Llandudwen yn rhan o gwmwd Dinllaen yng nghantref Llŷn. Saif eglwys y plwyf, sef Eglwys y Santes Tudwen, tua 3 milltir i'r dwyrain o bentref Tudweiliog ar lethrau gogleddol Carn Fadryn. Dywedir y bu pentref bychan o fythynnod to gwellt tlawd yma ar un adeg, wrth y nant ar ochr ddeheuol yr eglwys, ac iddo fynd ar dân. Rhywbryd cyn 1771 oedd hynny, canys llosgwyd hen gofrestri'r plwyf i gyd ac felly does dim cofnodion priodasau ayyb o'r cyfnod cyn hynny.[1]
Ceir Ffynnon Dudwen ger yr eglwys, a gysegrir i'r Santes Tudwen; defnyddid dŵr y ffynnon i fedyddio plant y plwyf. Un o ferched niferus Brychan, brenin Brycheiniog oedd Tudwen. Roedd cloch yr eglwys yn enwog yn lleol a cheir hen rigwm amdani sy'n agor gyda'r llinellau
- Cloch Llandudwen, wyt yn hynod,
- Er na roddir arnat fri.[2]