Tunku Abdul Rahman

Tunku Abdul Rahman Putra Al-Haj ibni Almarhum Sultan Abdul Hamid Halim Shah, (8 Chwefror 19036 Rhagfyr 1990) Prif weinidog cyntaf Malaia (1957-63) a Maleisia (1963-70). Roedd yn un o benseiri'r Maleisia cyfoes.[1]

Tunku Abdul Rahman
Ganwyd8 Chwefror 1903 Edit this on Wikidata
Alor Setar Edit this on Wikidata
Bu farw6 Rhagfyr 1990 Edit this on Wikidata
Penang Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMaleisia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Maleisia, Minister of Foreign Affairs, Prif Weinidog Maleisia, Minister of Foreign Affairs, Member of the Dewan Rakyat, Q110133371 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUnited Malays National Organisation Edit this on Wikidata
TadAbdul Hamid Halim of Kedah Edit this on Wikidata
PriodSharifah Rodziah Syed Alwi Barakbah Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes Urdd y Goron, Urdd Ramon Magsaysay, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Gwobr y Brenin Faisal am Wasanaeth i Islam, Cydymaith Anrhydeddus, Urdd Sikatuna, Urdd Coron Brwnei, Order of Independence, Order of Chula Chom Klao, National Order of Vietnam, Honorary Companion of the Order of Australia Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd Tunku Abdul Rahman ei eni yn Alor Star, yn fab i gyn Swltan o Kedah. Cafodd ei addysg mewn ysgolion yn Malaia a Gwlad Thai cyn mynychu Prifysgol Caergrawnt, lle graddiodd ym 1925. Astudiodd y gyfraith yn y Deml Fewnol yn Llundain ond methodd yr arholiadau bar. Ar ôl dychwelyd i Malaia ym 1931 bu'n gweithio fel swyddog ardal yn y gwasanaeth sifil. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dychwelodd i Lundain gan gymhwyso fel bargyfreithiwr ym 1949.[2]

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Tunku Abdul Rahman ym 1945, pan ddaeth yn un o sylfaenwyr Sefydliad Unedig Cenedlaethol Maleisia (UMNO); ym 1951 etholwyd ef yn llywydd y sefydliad. Yn y rôl hon sefydlodd glymblaid gyda'r Gymdeithas Tsieineaid Malaia (1952) a Chyngres Indiaid Malaia (1955), a ddaeth wedyn yn Blaid y Gynghrair.

Fel arweinydd Blaid y Gynghrair, bu'n rhan o'r trafodaethau ar gyfer annibyniaeth Malaia o'r Deyrnas Unedig ym 1957 a daeth yn brif weinidog cyntaf Malaia. Er mwyn gwrthsefyll hawliadau SU-KARNO o Indonesia, sefydlodd Gymdeithas Dde-ddwyrain Asia ym 1961, a ddaeth yn ddiweddarach yn Gymdeithas Gwledydd De-ddwyrain Asiaidd (ASEAN). Ym 1963 chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o greu ffederasiwn Maleisia (yn cynnwys Malaia, Singapore, Gogledd Borneo a Sarawak), gan ddod yn brif weinidog y wladwriaeth newydd. Er bod Singapore wedi tynnu'n allan o'r ffederasiwn ym 1965 ac er gwaethaf aflonyddwch mewnol parthed ei bolisi ynghylch y lleiafrifoedd Indiaidd a Tsieineaidd, fe barhaodd mewn grym hyd 1970, pan ymddeolodd.

Roedd Tunku Abdul Rahman hefyd yn llenor a chafodd nifer o'i weithiau eu cyhoeddi gan gynnwys y ddrama Mahsuri (a chafodd ei droi'n ffilm ym 1948), a Looking Back (1977), sydd yn rhannol hunangofiant a rhannol hanes Maleisia.

Gan gael ei adnabod yn gyffredinol ar lawr gwlad fel "Tunku" neu "Y Tunku" (teitl brenhinol Malai), mae Tunku Abdul Rahman yn cael ei ystyried, hyd yn oed gan ei feirniaid, fel "tad y genedl" Malai, pensaer annibyniaeth Mlaeia a chreawdwr Maleisia. O'r herwydd hyn, cyfeirir ato'n aml fel Bapa Kemerdekaan (Tad Annibyniaeth) neu Bapa Malaysia (Tad Maleisia)[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tunku Abdul Rahman, 87, Dead; First Prime Minister of Malaysia". New York Times. 7 December 1990. Cyrchwyd 25 June 2015.
  2. Stockwell, A. (2004, September 23). Abdul Rahman, Tunku (1902–1990), prime minister of Malaysia. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 4 Medi 2018
  3. Cheah, Boon Kheng (2002). "The Tunku as "Founding Father of the Nation"". Malaysia: The Making of a Nation. Singapore: Institute of Southeast Asian Studies. tt. 109–110. ISBN 9812301542.