Enwad Cristnogol a ymddangosodd yn Ffrainc ynghylch y flwyddyn 1372, yn bennaf yn Safwy a Dauphiné, oedd y turlupiaid. Dysgent fod dyn, pan wedi cyrraedd i sefyllfa benodol o berffeithrwydd, yn cael ei ryddhau o bob rhwymedigaeth i fod yn ddarostyngedig i'r gyfraith ddwyfol. Yn ôl adroddiadau gan wrthwynebwyr yr enwad, byddent yn aml i'w gweld yn noeth, ac nid oeddynt yn caniatau gweddïo ar Dduw ond yn y meddwl yn unig. Galwent eu hunain yn "Frawdoliaeth y Tlodion".

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.