Turquoise Coal (label)

Mae Turquoise Coal yn label a sefydlwyd yn 2012 gan Alan Holmes sydd yn rhyddhau recordiadau yn Saesneg a Chymraeg gan grwpiau o Ogledd Cymru. Roedd Alan Holmes hefyd yn rhedeg label Central Slate rhwng 1985 - 1993.

Turquoise Coal
Sefydlwyd 2012
Sylfaenydd Alan Holmes
Math o gerddoriaeth Heb 'genre' penodol
Gwlad Cymru
Gwefan swyddogol http://turquoisecoal.com/
Alan Holmes ac Annie Pye, Spectralate yn perfformio ar Bier Bangor, Hydref 2015
Spectralate yn perfformio ar Bier Bangor, Hydref 2015

Hyd yma mae'r label wedi rhyddhau Spectralate, Heldinky, Irma Vep, Ectogram, Boreas y Gogledd, Normal Shed Uses, Scapegoats ac Andy Bob Beaumont.

Mae gwefan y label yn pwysleisio nad oes ganddo sŵn penodol ac mae’n agored i unrhyw 'genre’.[1]

Cafodd record gyntaf Turquoise Coal, Ha Ha gan Irma Vep ei lansio ar Sadwrn 24 Mawrth, 2012 yn siop Recordiau Cob Bangor - diwrnod olaf siop a oedd yn cau wedi 33 mlynedd.[2]

Disgyddiaeth golygu

  • BOREAS Y GOGLEDD Pont - CD TCCD001, Mehefin 2013
  • BOREAS Y GOGLEDD Schiphorst - CD TCCD001a, Mehefin 2013
  • BOREAS Y GOGLEDD Civic Cerebral Collapse - CD TCCD002, Mehefin 2014
  • IRMA VEP Haha feinyl LP (gyda CD) - TURQUOAL 001, Mawrth 2012
  • ECTOGRAM Exo-celestial - feinyl LP (gyda CD) - TURQUOAL 002, Rhagfyr 2012
  • HELDINKY Miles To Go Before i Sleep feinyl LP (gyda CD) - TURQUOAL 003, Ionawr 2015
  • SPECTRALATE - The Students' Companion - feinyl LP (gyda CD) - TURQUOAL 004, Gorffennaf 2015
  • NORMAL SHED USES -Tonal Acts - CD TCCD003, Ebrill 2015
  • SPECTRALATE - Cydymaith y Myfyrwyr - CD TCCD004, Medi 2015
  • SPECTRALATE - Brochod Aml-Dirwedd - CD TCCD008, Heb ei rhyddhau
  • BOREAS Y GOGLEDD - Skerries - CD TCCD007, Ebrill 2016
  • ANDY BOB BEAUMONT - Shed Songs - CD TCCD005, Ebrill 2016
  • NORMAL SHED USES - Astoclant - CD TCCD009, Mai 2016
  • SPECTRALATE - All Terrain Badgers - feinyl LP (gyda CD) TURQUOAL 005, Ebrill 2016
  • NORMAL SHED USES - On Cat Salt - CD TCCD006, Ebrill 2016
  • SPECTRALATE - Spectralating Leonard - Albwm, lawr-lwythiad am ddim TCDL001, Ionawr 2017
  • SCAPEGOATS - Hélène - CD TCCD010, Mawrth 2017
  • SPECTRALATE Unit 21 feinyl LP (gyda CD) - TURQUOAL 006, Hydref 2017
  • SPECTRALATE Skeletons vol. 1 a Skeletons vol. 1, Chwefror 2018, lawr-lwythiad am ddim

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu