Mae Spectralate yn ddeuawd cerddorol o Borthaethwy, Ynys Môn a ffurfiwyd yn 2014. Yr aelodau yw Annie Pye ac Alan Holmes.

Spectralate
Offerynnau: Gitâr, Drymiau, Theremin, Melotron, Piano, Syntheseisydd, Trymped, Llinynnau
Lleoliad: Porthaethwy,Ynys Môn
Iaith y caneuon Saesneg, Cymraeg
Recordiau Cydymaith y Myfyrwyr
The Students' Companion (2015)
All Terrain Badgers (2016)
Spectralating Leonard (2017)
Unit 21 (2017)
Gwefan http://www.spectralate.co.uk/

Cefndir golygu

 
Spectralate yn perfformio ar Bier Bangor, Dydd Sadwrn 10 Hydref, 2015

Mae Annie Pye yn wreiddiol o Caerfaddon ac wedi dysgu Cymraeg.

Mae Alan Holmes hefyd wedi bod yn aelod o Ectogram, Fflaps a Parking Non-Stop a nifer fawr o grwpiau ardal Bangor dros y blynyddoedd, bu hefyd yn gynhyrchydd recordiau cynnar Rheinallt H Rowlands a Gorky's Zygotic Mynci.

Yn haf 2015 rhyddhawyd Spectralate eu record hir feinyl cyntaf The Students' Companion ar label Turquoise Coal. Mae nifer o'u caneuon wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg ac mae'r band hefyd wedi rhyddhau CD 4-trac Cydymaith y Myfyrwyr.

Mae eu cân "Water Table" wedi'i chynnwys ar CD Past - Present – Future 2 ar y label Frankfurt Pure Pop for Now People.

Rhyddhawyd eu hail LP All Terrain Badgers eto ar label Turquoise Coal yn Ebrill 2016. Fe'i enwyd yn record y wythnos ar raglen Lisa Gwilym, BBC Radio Cymru.

Yn 2017 rhyddhawyd Spectralating Leonard fel terngyerd i Leonard Cohen oedd ar gael fel lawr-lwythiad am ddim ac Unit 21 feinyl LP gyda CD hefyd ar label Turquoise Coal.

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu