Recordiau Central Slate
Roedd Central Slate Records yn label recordiau a sefydlwyd gan Alan Holmes o Borthaethwy. Rhyddhawyd nifer o grwpiau, yn bennaf o ardal Bangor, gyda chaneuon yn Gymraeg a Saesneg.
Mae Alan Holmes wedi bod yn aelod o'r The Lungs, Fflaps, Third Spain, Ectogram, ac roedd yn sylfaenwr prosiect y band Rheinallt H Rowlands.
Mae Holmes bellach yn rhyddhau cynnyrch o'i label Turquoise Coal, eto'n canolbwyntio ar grwpiau ardal Bangor fel Heldinkey a grwpiau mae o'n rhan ohonynt fel Spectralate.
Catalog
golyguGrŵp | Teitl/math | Rhif | Blwyddyn |
---|---|---|---|
Cut Tunes | Shapeshake (12", EP) | SLATE 1 | 1985 |
Third Spain | Third Spain (LP) | SLATE 2 | 1985 |
Aml-gyfrannog | Hen Wlad Y Lladd-Dai (Caset) Fersiwn o record hir Geraint Jarman Hen Wlad fy Nhadau |
SLATE 3 | 1990 |
Reinheitsgebot | From Autumn to Winter (Caset) | SLATE 4 | 1987 |
The Lungs | Bloody Hell, it's The Lungs! (Caset) | SLATE 5 | 1988 |
The Lungs | Bloody Hell, it's 1988! (Calendr) | SLATE 6 | 1988 |
Aml-gyfrannog | Burning Down The Chapels / Yr Ysbryd Yn Y Bag Cysgu (Caset) |
SLATE 7 | 1988 |
Fflaps | Y Dyn Blin / Dilyn Dylan (Fideo) | SLATE 8 | 1988 |
Pop Negatif Wastad | Pop Negatif Wastad (12") | SLATE 9 | 1989 |
Cut Tunes | Strange Drum (LP mini) | SLATE 10 | 1989 |
Cut Tunes | Pobl Y Nadroedd (Caset, EP) | SLATE 11 | 1990 |
Fflaps | Fflaps (LP) | SLATE 12 | 1992 |
Rheinallt H Rowlands | 13 Mlynedd (DAT) - fersiynau o dair cân gan Joy Division. Un copi yn unig mewn bocs cyflwyno arbennig. Rhoddwyd i Nia Melville ar gyfer ei rhaglen Heno Bydd yr Adar yn Canu ar Radio Cymru. |
SLATE 13 | 1993 |
Rheinallt H Rowlands | Hendaid Brân A Straeon Eraill (Caset) | SLATE 14 | 1993 |
Mae Central Slate hefyd wedi rhyddhau y casetiau:
- The Light and Dark of Stephen Davies
- Alan Holmes Sings Lesser-Known Hits Of The Archies
- The Bland Velvet Underground - V.U. Dance Party '93