Twm Elias

naturiaethwr, darlithydd ac awdur Cymreig

Naturiaethwr, darlithydd ac awdur yw Twm Elias (ganwyd 1947) sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar fyd natur, hanes amaethyddiaeth, llen gwerin ac arwyddion tywydd.

Twm Elias
Ganwyd1947 Edit this on Wikidata
Clynnog Fawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnaturiaethydd, darlithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Mae'n hanu o Glynnog yn wreiddiol ac yn byw yn Nebo ger Caernarfon. Astudiodd am radd mewn llysieueg amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor cyn dilyn cwrs ymchwil yno ac yn Aberystwyth. Ers 1979 bu'n ddarlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog gan ymddeol yn Mai 2014.[1] Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd ac mae bellach yn Gadeirydd ei Phanel Enwau a Gweithgor y wefan amgylcheddol.[2]

Mae'n awdur nifer o lyfrau ac yn olygydd y cylchgrawn Fferm a Thyddyn, yn gyd-olygydd Llygad Barcud (cylchgrawn Cymdeithas Ted Breeze Jones) ac yn gyfrannwr cyson i Llafar Gwlad.[3] Cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 gan dderbyn y wisg wen. Mae'n llais ac wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg ac yn aelod selog o'r rhaglen radio Galwad Cynnar. Mae hefyd wedi cyfrannu i raglenni eraill fel Natur Wyllt, Byd Iolo a Seiat Byd Natur.

Llyfryddiaeth (dethol) golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Naturiaethwr: Angen i barciau gyfathrebu'n Gymraeg , BBC Cymru Fyw, 29 Mai 2014. Cyrchwyd ar 27 Medi 2016.
  2.  I'w derbyn i Orsedd y Beirdd 2011. BBC Cymru (8 Mehefin 2011). Adalwyd ar 27 Medi 2016.
  3.  Twm yw hwn. BBC Cymru (6 Ebrill 2009). Adalwyd ar 27 medi 2016.