Maentwrog

pentref yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Maentwrog[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir lle mae'r ffordd A496 o Harlech i Flaenau Ffestiniog yn croesi'r A487 o Borthmadog. Saif ar Afon Dwyryd ac mae'r Moelwyn Bach i'r gogledd a Llyn Trawsfynydd i'r de. Maentwrog oedd y lle uchaf y gellid ei gyrraedd ar hyd Afon Dwyryd mewn cychod o faint sylweddol.

Maentwrog
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth538 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9452°N 3.9882°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000090 Edit this on Wikidata
Cod OSSH665405 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

 
Afon Dwyryd, gerllaw
 
Yr olygfa dros y Ddwyryd

Daw'r enw o chwedl am sant Twrog yn taflu carreg anferth o ben y Moelwynion i ddinistrio allor baganaidd. Mae'r garreg i'w gweld yng ngongl Eglwys Sant Twrog. Mae cyfeiriad at Maentwrog yn y bedwaredd gainc o'r Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy lle'r adroddir fod Pryderi wedi ei gladdu yma ar ôl ei ladd yn ymladd â Gwydion gerllaw. Roedd ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd heibio' ir pentref, gan groesi'r afon yn Felinrhyd.

Mae tystiolaeth am goed yn cael eu hallforio o 1739, ond daeth Maentwrog yn bwysig gyda thwf y diwydiant llechi o'r 1760au ymlaen. Hyd nes adeiladwyd Rheilffordd Ffestiniog roedd y llechi'n cael eu cario yma a'u llwytho i gychod oedd yn mynd a hwy i lawr yr afon i'w llwytho i longau. Tyfodd Maentwrog yn gyflym yn y 19g. Gerllaw'r pentref mae Plas Tan y Bwlch, unwaith yn gartref y teulu Oakley a fu'n flaenllaw yn natblygiad y diwydiant llechi yn ardal Blaenau Ffestiniog. Teulu Oakley oedd yn gyfrifol am ddatblygu a chynllunio'r pentref. Mae'r plas yn awr yn Ganolfan Astudio yn perthyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gorsaf Tan-y-Bwlch ar Reilffordd Ffestiniog gerllaw hefyd. Mae dwy dafarn yma, The Grapes o'r 17g yn y pentref a'r Oakley Arms ger Plas Tan y Bwlch.

Agorwyd gorsaf drydan Maentwrog yn 1928, ac mae'n parhau i gynhyrchu trydan, gan ddefnyddio dŵr o Llyn Trawsfynydd.

Olion hynafol

golygu

Ceir cylch cytiau caeedig Coed Fali gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Maentwrog (pob oed) (631)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Maentwrog) (410)
  
67.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Maentwrog) (409)
  
64.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Maentwrog) (120)
  
41.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau llenyddol

golygu

Ceir cyfeiriad at Faentwrog mewn englyn masweddus sy'n cychwyn gyda'r linell "Anturiaf i Faentwrog".[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.