Twristiaeth

(Ailgyfeiriad o Twrist)

Teithio er difyrrwch, hamdden neu fusnes yw twristiaeth. Mae Sefydliad Twristiaeth y Byd yn diffinio "twrist" fel person "sy'n teithio i ac yn aros mewn lleoedd y tu allan i'w amgylchedd arferol am un flwyddyn neu lai er hamdden, busnes neu resymau eraill".[1] Mae twristiaeth yn weithred boblogaidd ar draws y byd. Yn 2011, roedd mwy na 983 miliwn o dwristiaid rhyngwladol, twf o 4.6% ar 2010 (940 miliwn).[2][3]

Mae twristiaeth yn bwysig, weithiau'n hanfodol i nifer o wledydd. Yn ôl Datganiad Manila ar Dwristiaeth Byd-eang (1980), mae twristiaeth yn "weithred sy'n hanfodol i fywyd cenhedloedd o ganlyniad i'w heffeithiau uniongyrchol ar sectorau cymdeithasol, diwylliannol, addysgol, ac economaidd cymdeithasau cenedlaethol ac ar eu cysylltiadau rhyngwladol".[1][4] Cynhyrcha twristiaeth incwm wrth i unigolion dalu am nwyddau a gwasanaethau, sy'n cyfrif am fwy na 30% o allforion gwasanaethau'r byd, a 6% o holl allforion nwyddau a gwasanaethau.[2] Mae'r diwydiant twristiaeth hefyd yn creu swyddi yn y sector wasanaethau,[3] mewn cludiant, llety, ac adloniant.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "UNWTO technical manual: Collection of Tourism Expenditure Statistics" (PDF). World Tourism Organization. 1995. t. 10. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-09-22. Cyrchwyd 26 March 2009.
  2. 2.0 2.1 "International tourism receipts surpass US$ 1 trillion in 2011" (Press release). UNWTO. 7 May 2012. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2018-03-16. https://web.archive.org/web/20180316035644/http://media.unwto.org/en/press-release/2012-05-07/international-tourism-receipts-surpass-us-1-trillion-2011. Adalwyd 15 June 2012.
  3. 3.0 3.1 "2012 Tourism Highlights" (PDF). UNWTO. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-12-25. Cyrchwyd 17 June 2012. Unknown parameter |month= ignored (help)
  4. "Manila Declaration on World Tourism" (PDF). Manila, Philippines: World Tourism Conference. 10 October 1980. tt. 1–4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-11-20. Cyrchwyd 2012-09-16.

Gweler hefyd

golygu