Twristiaeth yng Nghymru

Yn 2016 bu cynnydd o 11% yn nifer yr ymweliadau tramor â Chymru (1.074 miliwn) o gymharu â'r flwyddyn gynt, a chynnydd o 8% yn faint o arian gafodd ei wario ar yr ymweliadau â Chymru (£444 miliwn).[1]

Glan y môr golygu

Mae economi sawl tref ar hyd arfordir y gogledd yn dibynnu ar y diwydiant ymwelwyr, gan gynnwys y Rhyl, Bae Colwyn, Conwy, a Llandudno.

Mae twristiaeth hefyd yn bwysig i drefi ar lannau Bae Ceredigion, megis Harlech, y Bermo, Aberdyfi, Tywyn, Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, ac Abergwaun. Yn y gorllewin mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Denir ymwelwyr hefyd gan draethau de Cymru, yn enwedig Penrhyn Gŵyr, Porthcawl, ac Ynys y Barri. Ystyrir Traeth Rhosili yn un o draethau gorau'r byd.[2]

Mae llongau fferi yn hwylio o Gaergybi ac Abergwaun i Iwerddon. Y farchnad fordeithiau yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac mae nifer cynyddol o ymwelwyr o'r Almaen yn dod i'r de-orllewin trwy fordeithiau sy'n aros yn Abertawe, Aberdaugleddau, Penfro, ac Abergwaun.[3]

Cefn gwlad golygu

Chwaraeon golygu

Twristiaeth bwyd golygu

Mae twristiaeth bwyd yn ddiwydiant ar ei brifiant yng Nghymru.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cynnydd o 11% yn y nifer o bobol o dramor sy’n ymweld â Chymru, Golwg360 (18 Mai 2017). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2017.
  2. Traeth Rhosili ymysg y goreuon yn y byd, Golwg360 (5 Gorffennaf 2017). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2017.
  3. Caergybi yn croesawu mordeithiau cyntaf y tymor i Gymru, Golwg360 (4 Mai 2017). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2017.

Dolenni allanol golygu