Cadwyn o fryniau sialc yn Ne-ddwyrain Lloegr yw'r Twyni Gogleddol[1] (Saesneg: North Downs). Mae'r Twyni yn ymestyn o Farnham yn Surrey yn y gorllewin i'r Clogwyni Gwyn Dover yng Nghaint yn y dwyrain. Mae'r rhan orllewinol, rhwng Farnham a Guildford, yn gefn cul, a elwir yn The Hog's Back ("Cefn y Twrch"). Mae'r rhan ddwyreiniol ehangach yn gorffen yn y clogwyni rhwng Folkestone and Deal. Ar yr ochr ddeheuol mae sgarp serth; ar ochr ogleddol mae golethr ysgafn. Botley Hill yw pwynt uchaf y Twyni, gyda chopa 267 metr (876 troedfedd) uwchben lefel y môr. Mae'r crib y Twyni'n cael ei groesi gan ddyffrynnoedd cyfres o afonydd: y Wey, Mole, Darent, Medway a Stour, sy'n llifo i'r gogledd ac i'r gogledd-ddwyrain o'r Weald.

Twyni Gogleddol
Mathhill chain Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaint, Surrey Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr270 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.2667°N 0.5°W Edit this on Wikidata
Map
Deunyddsialc Edit this on Wikidata

Mae'r Twyni Deheuol yn gadwyn arall o fryniau sialc sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r Twyni Gogleddol, tua 30 milltir (48 km) i'r de, ar ymyl ddeheuol y Weald.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, down1 n > the North Downs.


Oriel golygu