Grŵp hip hop Cymraeg o Gymru oedd Tystion.

Tystion
TarddiadCaerfyrddin, Cymru
Math o GerddoriaethHip hop
Cyfnod perfformio1996 (1996)–2002 (2002)
LabelFitamin Un, Ankstmusik
Perff'au eraillMurry the Hump, MC Mabon
Cyn-aelodau
Steffan Cravos
Gruff Meredith
Curig Huws
Gareth Williams
Clancy Pegg
Phil Jenkins

Yn 1996, daeth MC Sleifar (Steffan Cravos) a G Man (Gruff Meredith) at ei gilydd i ryddhau ychydig o gasetiau. Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhawyd yr albwm Rhaid i Rhywbeth Ddigwydd ar eu label eu hunain, Fitamin Un. Recordiwyd yr albwm gyda Curig Huws, a fyddai'n mynd ymlaen i fod yn aelod o Murry The Hump. Daeth hyn a'r grŵp i sylw Ankstmusik a ryddhaodd eu hail albwm Shrug Off Ya Complex yn 1999.

Gadawodd Meredith y band i greu cerddoriaeth ei hun dan yr enw MC Mabon. Ymunodd dau aelod newydd gyda Cravos yn y grŵp - y cyd-rapiwr MC Chef (Gareth Williams) a Clancy Pegg ar y bas a'r allweddellau. Rhyddhawyd eu trydydd albym Hen Gelwydd Prydain Newydd a yn 2000 ar Fitamin Un.

Ym mis Awst 2002 cyhoeddodd y grŵp eu bod yn chwalu. Gwnaed y cyhoeddiad gan Steffan Cravos o lwyfan Maes B yn y Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, a felly hwn oedd eu gig olaf.[1]

Disgyddiaeth

golygu

Albymau

golygu
Blwyddyn Albwm Label Gwybodaeth ychwanegol
1995 Dyma a'r Dystiolaeth Fitamin Un Casét un unig
1996 Tystion vs Alffa Un

Fitamin Un
Casét yn unig
1997 Rhaid I Rhywbeth Ddigwydd Fitamin Un
Albwm cyntaf
1999 Shrug Off Ya Complex Ankstmusik
2000 Hen Gelwydd Prydain Newydd Ankstmusik

Senglau

golygu
Blwyddyn Cân Albwm Label Gwybodaeth Ychwanegol
1998 "Brewer Spinks EP" Ankstmusik Sengl yr wythnos yn Melody Maker.
1999 "Shrug EP" Shrug Off Ya Complex Ankstmusik Sengl 12"
1999 "Toys EP" Ankstmusik Sengl 12"
2001 "Y Meistri EP" Fitamin Un
2002 "M. O. M. Y. F. G EP" Fitamin Un Ryddhad olaf ar feinyl Adolygiad Archifwyd 2006-11-13 yn y Peiriant Wayback - Fideo

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu