Iaith artiffisial wedi'i seilio ar fersiwn eithafol bur o Islandeg fodern yw Uchel Islandeg (Háfrónska). Fe’i henwyd ar ôl "høgnorsk" (Uchel Norwyeg), ffurf geidwadol o’r Norwyeg. Deillia "frónska" o’r gair "fron", yr enw barddonol am Wlad yr Iâ, un o’r enwau am yr ynys a grybwyllir yn yr Edda. Yn Uchel Islandeg mae pwyslais ar “málgjörhreinsun” (purdeb eithafol), y ffurf fwyaf eithafol o burdeb ieithyddol. Pétur Þorsteinsson yw cadeirydd mudiad iaith Uchel Islandeg. Nid oes gan yr iaith unrhyw statws swyddogol yng Ngwlad yr Iâ, ac nid oes ganddi ddim siaradwyr rhugl.

Darlun bropaganda Uchel Islandeg: Ynyswyr yr Iâ, rhywogaeth puro iaith.

Cysylltiadau allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.