Undeb Bedyddwyr Cymru

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru (Saesneg: Baptist Union of Wales) yn undeb o gymanfaoedd eglwysi Bedyddwyr yng Nghmru.

Undeb Bedyddwyr Cymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad crefyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1866 Edit this on Wikidata
PencadlysCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.buw.org.uk/ Edit this on Wikidata

Nod Undeb Bedyddwyr Cymru yw hyrwyddo’r Ffydd Gristnogol yng Nghymru a hybu cenhadaeth ymhlith cymunedau Cymru. Mae'r Undeb o Gymanfaoedd sy’n cynnwys 380 o eglwysi  wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig, pentrefi, trefi a dinasoedd ar hyd ac ar led Cymru.  Mae’r Undeb yn ymrannu’n ddwy adain, y naill yn Gymraeg ei hiaith a’r llall yn Saesneg ei hiaith.

Aelodaeth golygu

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn aelod o Gyngor Eglwysi Cymru, Cytûn (Churches Together in Wales), Ffederaswin Bedyddwyr Ewrop, a Chynrhair Bedyddwyr y Byd. Lleoliad pencadlys yr Undeb yw Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Yn 1995 roedd gan yr Undeb 544 o eglwysi gyda 25,384 o aelodau. Roedd 146 o'r eglwysi hwn (gyda 9552 aelod) hefyd yn aelodau o Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr.

Iaith golygu

Mae eglwysi'r Undeb yn addoli yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ffynonellau golygu

  • Albert W. Wardin, Jr., ed. Baptists Around the World (Nashville, Tenn.: Broadman & Holman, 1995)
  • T. M. Bassett The Welsh Baptists (Abertawe: Ilston House, 1977)

Dolenni allanol golygu